Dwi’n postio’r swydd yma ar ran Dawn Knight, CorCenCC. Y dyddiad cau yw 24/11/15
‘CorCenCC – Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes: Dull cymunedol o adeiladu corpws ieithyddol’
Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol i ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol ac aml-sefydliadol fydd yn creu corpws ffynhonnell agored o Gymraeg cyfoes ar raddfa eang (CorCenCC). Nod y prosiect yw ailddiffinio cwmpas, dyluniad a seilwaith methodoleg datblygu corpws, yn ogystal â chreu adnodd Cymraeg o bwys i’w ddefnyddio mewn lleoliadau cymunedol, masnachol, addysgol a llywodraethol.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gefndir mewn ieithyddiaeth gyfrifiadurol, ieithyddiaeth corpws, rhaglennu a/neu ddatblygu meddalwedd. Mae gallu cydweithio yn elfen allweddol o’r rôl hon; bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda thimau o wyddonwyr cyfrifiadurol ac ieithyddion cymhwysol. Mae sgiliau cyfathrebu rhagorol a gallu bodloni terfynau amser yn hanfodol, ac mae gwybodaeth am y Gymraeg yn ddymunol. Bydd deiliad y swydd yn cynorthwyo i ddatblygu set tagiau ac offer codio, yn ogystal â llunio rhaglen gwybodaeth dorfol a meddalwedd corpws digidol. Mae arbenigedd technegol perthnasol yn hanfodol, a byddai profiad o ddadansoddi data meintiol a chyfrifiadurol â meddalwedd mynegeiriau yn fanteisiol.
Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) sy’n ariannu’r prosiect hwn sy’n para 3½ mlynedd. Dawn Knight, o Ganolfan Ymchwil Iaith a Chyfathrebu Prifysgol Caerdydd, sy’n ei arwain. Mae tîm y prosiect academaidd hefyd yn cynnwys Tess Fitzpatrick, Irena Spasic a Jeremy Evas (Prifysgol Caerdydd); Steve Morris a Mark Stonelake (Abertawe); Paul Rayson (Prifysgol Lancaster) ac Enlli Thomas (Prifysgol Bangor).
Bydd y swydd hon ym Mhrifysgol Caerdydd a bydd yn amser llawn am gyfnod sefydlog o 3½ mlynedd. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus ddechrau ei swydd ar 1 Mawrth 2016 neu cyn gynted â phosibl wedi hynny. Cynhelir y cyfweliadau ar 7 Rhagfyr 2015.
Gellir dod o hyd i fanylion ymgeisio am y swydd hon ar http://www.cardiff.ac.uk/jobs/ rhwng 26/10/15 a 24/11/15. Cyfeirnod y swydd hon yw 4001BR.
Os oes gennych ymholiadau anffurfiol, cysylltwch â Dr Dawn Knight (KnightD5 MALWEN caerdydd.ac.uk).