Mae Windows 10 wedi ei lansio ac mae ar gael yn Gymraeg o’r cychwyn.
Sut mae cael gafael ar Windows 10?
Os ydych ar Windows 7 ac 8.1 ac wedi diweddaru’n gyson bydd ar gael i chi am ddim drwy gydol y flwyddyn nesaf. Os ydych ar ryw fersiwn cynt o Windows neu heb fod yn diweddaru 7 ac 8, mae ar gael gan Microsoft am £100. Os ydych yn y categori cyntaf, mi ddylech fod wedi cael rhagrybudd gan Microsoft ei fod ar gael o Orffennaf 29 ymlaen.
Ond lle mae e?
Mae Microsoft yn bwriadu anfon a gosod Windows i’w ddefnyddwyr dros amser, felly os nad yw wedi cyrraedd eto ac rydych wedi cofrestru ar ei gyfer, mae ar ei ffordd. Amynedd. :-/
Os nad oes amynedd ar gael, mae modd ei lwytho i lawr i gof bach (neu DVD) a’i osod o hwnnw. Dyna nes i ac mae’n gweithio’n dda. Cofiwch wneud copïau wrth gefn o’ch data amhrisiadwy a chopïau o yrwyr eich peiriant, rhag ofn. Mae’r broses yn cymryd rhwng 2 a 7 awr yn dibynnu ar safon eich cyfrifiadur.
Lle mae’r Gymraeg?
O fy mhrofiad i, mae’r Gymraeg yn ymddangos yn syth ar gyfrifiaduron Windows 8.1 lle roeddwn wedi gosod y Gymraeg fel iaith y rhyngwyneb. Roedd rhaid gosod y pecyn iaith ar gyfer cyfrifiaduron Windows 7 er eu bod nhw eisoes â’r rhyngwyneb Cymraeg arnynt. Efallai y cewch chi brofiad gwahanol. Felly, sut mae gosod y rhyngwyneb Cymraeg, os nad yw’n ymddangos?
Clicio ar y botwm Start > Settings >Time and Language yna Area and Language. Ar y dudalen honno bydd yn dweud Languages ac Add Language. Cliciwch ar Add Language a bydd ffenestr â rhyw 100 o ieithoedd yn ymddangos. Mae Welsh ar ddiwedd y rhestr, cliciwch arno ac aros. Bydd y pecyn iaith yn llwytho i lawr. Gwnewch yn siŵr mai’r pecyn iaith arddangos sy’n cael ei osod. Ar ôl ei osod ailgychwynnwch Windows a bydd y rhyngwyneb Cymraeg ar gael.
Diolch i Microsoft am gefnogi’r Gymraeg mor hael, mae yna nifer o raglenni eraill, er enghraifft, OneDrive, yn ogystal ag Office ar gael yn Gymraeg.
Diolch i’r cyfieithwyr am wneud gwaith caboledig o’r cyfieithiad.
Eisiau gwybod rhagor?