‘Dyn ni wedi dechrau tudalen o wefannau Cymraeg colledig ar Hedyn.
Mae 36 gwefan arni hi eisoes gydag ambell i ddolen i archifau.
Pam ydyn ni’n creu tudalen o hen wefannau Cymraeg? Ymchwil ac ysbrydoliaeth ydy dau reswm.
Mae teimlad hefyd bod pobl yn anghofio faint sydd wedi ei gyflawni yn Gymraeg ar y we, yn enwedig newyddiadurwyr sy’n ail-graffu datganiadau i’r wasg sy’n mynnu bod rhywun wedi gwneud rhywbeth hollol newydd yn y Gymraeg. 🙂  (Wrth gwrs mae ail-wneud pethau mewn ffordd well yn rywbeth i’w groesawu.)
Gawn ni weld pa beth a ddaw.
Ewch i weld y dudalen Gwefannau Cymraeg colledig.
Mae croeso i chi grybwyll gwefannau eraill trwy’r wici. Mae hi’n rhedeg ar MediaWiki, yr un meddalwedd â Wicpedia.
Mae’r Rhestr, prosiect i gasglu blogiau a phodlediadau cyfredol yn Gymraeg yn rhedeg ers tipyn.