Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysebu swydd Rheolwr Cyfryngau Digidol ar hyn o bryd:
Cyflog £26,321 – £35,735 (Band Rheoli 2)
- Noder mai ar waelod yr ystod cyflog y byddwn yn recriwtio fel arfer.
Diben y swydd:
Rôl y swydd hon yw helpu i ddatblygu a gweithredu strategaeth cyfathrebu digidol arloesol, dynamig ac amlblatfform i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynorthwyo Uwch-reolwr y Cyfryngau Digidol i sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn dangos esiampl o ran mentrau fel e-ddemocratiaeth, i helpu i annog pobl i ymgysylltu â’r broses ddemocrataidd.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda Golygydd y Wê i sicrhau bod ein presenoldeb ar-lein yn ddifyr, yn berthnasol, yn hygyrch ac yn briodol ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd targed, ac yn adlewyrchu ymrwymiad strategol y Cynulliad Cenedlaethol i fod yn agored, yn dryloyw ac yn hygyrch.
Bydd angen i ddeiliad y swydd ddeall potensial technoleg ddigidol newydd a thechnoleg ddigidol y dyfodol i fod yn gyfryngau ar gyfer cyfathrebu â chynulleidfaoedd allweddol a sut maent yn gweithio fel rhan o strategaeth gyfathrebu ehangach.
Bydd y rôl yn datblygu sgyrsiau a chymuned i gysylltu â chynulleidfa ledled Cymru a thu hwnt i feithrin a chynnal cydberthnasau. Mae’r Cynulliad am wella ei allbwn cyfryngau cymdeithasol drwy sefydlu ymgysylltiad llawn yn hytrach na dim ond bod yn sianel ddarlledu arall.
Patrwm gwaith:
Swydd amser llawn yw hon. Fodd bynnag, ystyrir trefniadau gweithio hyblyg, yn amodol ar sicrhau y caiff anghenion y Cynulliad eu diwallu.
Dyfynnwch gyfeirnod AC/055/14
Dyddiad cau: 10:00 30 Ionawr 2015
Mae’r manylion i gyd ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Cysylltwch yn uniongyrchol am ragor o wybodaeth.