Cymro sy’n gweithio i Microsoft ydy Stuart Ball. Mae fe wedi postio cofnod ar flog Microsoft i athrawon i ddatgan bod Kodu bellach ar gael yn Gymraeg mewn cydweithrediad a chyfieithwyr ifanc yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.
O’n i ddim yn gwybod beth yw Kodu a dweud y gwir.
Mae hi’n iaith cyfrifiadurol a phlatfform datblygu integredig ar Xbox360 a Windows sy’n hygyrch i blant.
Yn ôl y sôn mae’r plant yn creu eu gemau eu hunain i’w chwarae a rhannu. (Mae lot wedi newid ers Logo yn fy ysgol i yn amlwg.)
Dw i wedi chwarae gyda Kodu weithau gyda fy myfywyr i. Mae’n hwyl! Defnyddio i ddysgu pobl ifanc cysyniadau rhaglenni symyl. Mae TechnoCamps yn deffnyddio fe weithau hefyd.
Leia, ahh diolch. Wyt ti’n sgwennu’r rhaglen yn Gymraeg bellach neu ydyn nhw yn siarad am y rhyngwyneb yn unig?