Llun o’r Gwladgarwr, mis Rhagfyr 1884
Mae Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn sganio a digido hen bapurau newydd o Gymru gan gynnwys dros 100 o deitlau gwahanol yn Saesneg ac yn Gymraeg. Bydd y casgliad ar gael i bawb cyn hir.
Yn y cyfamser maen nhw newydd gwahodd pobl sy’n mynychu’r Hacathon ar ddydd Gwener i weld fersiwn beta o’r wefan gyda’r papurau newydd. Yn ogystal, mae API mewn beta (sydd yn hwyluso cyfathrebu rhwng prosiectau annibynnol a’r gronfa o bapurau). Dyma rhai o’r syniadau mae pobl yn eu awgrymu gan gynnwys crysau-t a ‘QuackFinder’ i ffeindio hysbysebion am afiechydon amryw. Os wyt ti’n gallu dod i’r Hacathon (e.e. mae rhai o bobl sy’n dod i Hacio’r Iaith ar ddydd Sadwrn yn dod un diwrnod yn gynharach), mae modd cofrestru yma.
Mi fyswn i yn prynu crys-t efo’r logo ‘Blood Pills’ yna. Anhygoel!