Mae’n braf i weld bod rhyw fath o drefn i’r broses machlud-heulo hen wefan Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Roedd y wefan yn cofnod o hanes trwy’r datganiadau ac ati a roedd ambell i adnodd defnyddiol ar wefan Bwrdd yr Iaith fel adroddiadau/canllawiau fel gwaith Daniel Cunliffe iddyn nhw er enghraifft.
Ar hyn o bryd mae’r cyfeiriad http://www.byig-wlb.org.uk yn neidio i http://www.webarchive.org.uk/ukwa/target/100770/source/search
Mewn gwirionedd mae pob URL byig-wlb.org.uk yn neidio i’r un tudalen felly mae pob dolen dwfn wedi torri, sef miloedd o ddolenni o gwmpas y we. Hmm. e.e. Mae 592 ar Wikipedia/Wicipedia.
Tu hwnt i’r cyfeiriadau dw i ddim yn siŵr pa mor gynhwysfawr ydy’r archif eto. Mae’r llinyn ‘translate to Welsh’ ar rhyngwyneb UK Web Archive yn od…
Comisiynydd Iaith
Gyda llaw dyma lle rwyt ti’n gallu ffeindio’r comisiynydd iaith newydd:
http://www.comisiynyddygymraeg.org/cymraeg/Pages/Hafan.aspx
Technoleg Cymraeg ar comisiynyddygymraeg.org – enw eang am dudalen fach…
Hi Carl,
Oedd angen ychydig o waith paratoi technegol cyn i ni fedru ddargyfeirio pawb yn awtomatig i’r dudalen ddiweddaraf ar yr archif. Dylai popeth fod yn gweithio o heddiw ymlaen (1/6/12).
Jeremy.