Dwi wedi bod yn meddwl am ein sefydliadau yng Nghymru, a’r potensial creadigol sydd wedi ei gloi tu mewn i rai ohonyn nhw.
Wn i ddim os oes unrhyw werth i’r syniad yma ond dwi am ei wyntyllu beth bynnag:
Beth pe bai pob sefydliad cyhoeddus yng Nghymru (Amgueddfa Gen, Llyfrgell Gen, Llywodraeth ayyb) yn rhoi cyfran o amser eu timoedd gwe ar gyfer cydweithio ar brosiectau ar y cyd.
Gallai’r prosiectau fod yn gweithio i ddatrys cyfres o broblemau bach lle galla arbenigedd wahanol i’w maes fod yn ddefnyddiol, neu’n ateb rhyw broblem sydd gan un o’r sefydliadau ond sydd yn rhy fawr ar gyfer y tîm sydd ganddyn nhw. Gallai fod yn rhywbeth cydweithredol cwbl greadigol a thu hwnt i friff arferol datblygwyr a dylunwyr gwe sector cyhoeddus.
O bosib trwy ddefnyddio cyfran fechan o amser blwyddyn grwp o bobol dalentog y gellid cael canlyniadau diddorol iawn, heb sôn am roi cyfle i weithwyr yn y sector gyhoeddus gael profiadau diddorol, ac i sefydliadau rannu syniadau a chlosio rywfaint.
Mae hyn yn cymryd yn ganiataol wrth gwrs bod na ddigon o dimoedd gwe mewnol yn y sefydliadau hyn i wneud rhywbeth gwerth chweil, a bod y rhan fwyaf o’r gwaith ddim wedi ei yrru allan i gwmniau preifat. Mae’n cymryd yn ganiataol hefyd bod na brosiectau allai gael eu gwneud ar y cyd yn y dull yma, ond dwi’n siwr y byddai grŵp o bobol alluog yn gallu dychmygu hyn yn well na fi.
Dwi jest yn gweld llawer o’r sefydliadau hyn fel eu bod mewn cystadleuaeth a’u gilydd, pan ddylai na fod llawer mwy o orgyffwrdd na’r hyn dwi’n ei weld. Mae cystadlu am ffynhonellau bychai arian sy’n edwino yn gwneud aros mewn silo yn fwy deniadol, ond efallai bod angen ffyrdd o wneud y gwrthwyneb.
Wrth chwilio am yr enghreifftiau sector breifat o hyn fel sydd yn Intel a Google, mi ddes ar draws y term “intrapreneurship>“. Bach yn buzzwordy, ond ma’r enghreifftiau o’n i’n chwilio amdanyn nhw yng ngwaelod y gofnod wiki. Faswn i’n falch o wybod os oes na engreifftiau o hyn yn y sector gyhoeddus rywle – debyg nad oes gan ei bod siwr o fod yn annodd cyfiawnhau 20% o arian y pwrs cyhoeddus ar feddwl awyr las!
Dwi’n sylwi rwan bod Carl newydd bostio ar bwnc tebyg, ond hoffwn i glywed os yw’r syniad yn un fyddai’n bosib neu’n ddefnyddiol.