[…] Pam? Fyswn i’n hoffi dweud bod o dros ryw reswm ideolegol, neu fy mod i’n protestio dros reswm X neu Y, ond y gwir yw fy mod i wedi diflasu a’r peth. Yn wir, rheswm preifatrwydd yw’r cam diwethaf, ond y gwir yw doedd fawr ddim mwy i’r peth.
Fe ddaeth i’r amlwg ar ôl cynhadledd F8 Facebook wythnos diwethaf fod y gwefan yn gwneud newidiadau sylfaenol i’w ffordd o weithio. I mi, y peth mwyaf diddorol oedd bod hi nawr yn bosib i bartneriaid fel Spotify a’r New York Post cysylltu gyda’ch cyfrif Facebook a phostio i’ch wal eich bod chi wedi darllen rhyw erthygl neu wrando ar ryw gan yn awtomatig (fysai Netflix hefyd yn gwneud hyn, ‘blaw am fod deddf yn yr UDA yn nadu iddynt wneud). […]
Cofnod gan Bryn Salisbury (mae fersiwn Cymraeg ar gael ond methu ffeindio ei dolen barhaol…)
http://www.randomlyevil.org.uk/2011/09/26/gadael-gweplyfr-leaving-facebook/
A gadael Spotify? https://twitter.com/#!/Suw/status/118429334427017216
Dwi ddim wir yn trystio Twitter gyda fy sdwff chwaith mae arna i ofn. Mae nhw eisoes wedi dechrau cau lawr llawer o ddatblygwyr sydd yn adeiladu ar y platfform. http://techcrunch.com/2011/03/11/twitter-ecosystem-guidelines/
Y broblem wrth gwrs yw bod y grym poblogaeth mae’r dau wasanaeth yn harnesu yn annodd i’w wrthod. Alla i ddim gadael Facebook yn llwyr achos dwi angen y cyrhaeddiad mae’n rhoi o ran pobol arlein ar gyfer prosiectau gwahanol, yn arbennig yn achos y cyfryngau. Ond dwi yn ystyried peidio ei ddefnyddio o hyn allan a stripio popeth nôl o ran fy mhroffil.
Beth bynnag wnawn ni, da ni eisoes wedi chwarae’n rhan mewn tyfu FB i’r lle mae o rwan yn gallu gwneud fel y mynno gyda’i ddefnyddwyr, achos mae cymaint o bobol yn locked-in. Fydd cwpwl o internet free cyberlove (Go ‘cyber’!) hippies yn gadael ddim yn poeni nhw rhyw lawer.
Cytuno gyda Rhodri. Does dim angen
gadael Facebook am rhesymau security – jyst defnyddio fo mewn ffordd wahanol. Does neb yn gorfodi chi mynd ar spotify neu pryny’r NY Times.
mwy ar y stori Spotify
http://www.theregister.co.uk/2011/09/27/zuckerberg_reservation_and_the_future_of_content_platforms/
Y darn yma o’r erthygl yna yw’r un pwysig i fi:
Mae na oblygiadau i’r math hyn o fonopoli ar eyeballs sydd yn arwain fi tuag at feddwl bod rheoleiddio ar gyfer rhannau o’r we yn anochel er mwyn gwarchod buddiannau y cyhoedd yn hytrach na buddiannau masnachol pur cwmniau preifat yn yr UDA. Rheoleiddio ac ymyrraeth yn y farchnad wnaeth sicrhau cyfryngau Cymraeg ffyniannus yn yr 80au a 90au, a thrwy hynny ddiwylliant mwy amrywiol a diddorol. Rydan ni’n ddigon cyfforddus gyda hynny, er bod y model yn prysur ddadfeilio o flaen ein llygaid.
A ddylai Facebook er enghraifft, orfod cynnwys links/hysbysebion i ddeunydd Cymraeg ar gyfer defnyddwyr sydd yn nodi eu bod yn siarad Cymraeg fel rhyw fath o ‘public service obligation’? A ddylen nhw orfod rhoi links/hysbysebion i ddeunydd Cymreig ar gyfer pobol sy’n nodi eu bod yn byw o fewn ffiniau Cymru? Fyddai hynny’n helpu i roi lle priodol i ba bynnag wlad o leiaf roi troedle i’w cynnwys cyhoeddus nhw o fewn gwefannau sydd yn cael eu trin fel ‘wasanaeth cyhoeddus’ (public utility dwi’n feddwl fama) a rhyw fath o hawl sylfaenol fel dŵr a thrydan gan ei defnyddwyr.
Mae Nhw (a dwi’n cynnwys Apple, Amazon, Google a Twitter yn fan hyn) yn gwneud miliynau allan ohonom ni. Ydi beth mae Nhw’n ei roi nôl yn fargen ddigon da?
Dw i’n gallu dychmygu wyneb bach Zuckerberg nawr: os wyt ti eisiau gweld dy ddolenni ar Facebook rwyt ti’n gallu eu postio ar dy wal. Neu brynu hysbyseb! Unrhyw iaith, unrhyw pwnc, croeso mawr i fy ngwe i!