City Arms heno? (Caerdydd)

Mae rhai ohonyn ni yn mynd i City Arms heno, Stryd Quay.

Rydyn ni’n ei alw Hacio’r Iaith Bach. Croeso i ti ddod i drafod technoleg, y we a stwff. Dim agenda, dim ‘siaradwyr’, dim ond hwyl.

Bydda i yna o 7PM ymlaen.

Ffonia 07891 927252 os ti ar goll.

7 sylw

  1. Diolch i bawb am ddod nos Lun. Cawson ni bedwar o bobol, sy’n berffaith am sesh yn y pyb.

    Gwnaethon ni trafod (dim trefn):
    lleol.net
    blogiau lleol a phapurau bro
    Meddalwedd rydd
    gwefannau hyll
    y term ‘bas-data’
    Drupal Cymraeg
    Golwg360 a newyddion
    gwerthu hysbysebion ar-lein a rhwydweithiau hysbysebu
    Cyngor Caerdydd a data
    data.gov, data.gov.uk a data agored
    Polisiau data agored – Lloegr vs Cymru
    Apple (a’u diffyg cefnogaeth i Gymraeg)

  2. Flin iawn nad o’n i’n gallu dod. Er ‘mod i’n defnyddio Macs dwi’n credu fod e’n warthus nad yw Apple yn rhoi cefnogaeth lawn i’r Gymraeg. Er bod ychydig o Gymraeg ar iOS (dyddiadau) mae’n debyg y bydd modd creu ‘geiriadur personol’ ar iOS 5. Bydd hynny’n galluogi tecstio darogan a gwirio sillafu Cymraeg. Dyfal donc

Mae'r sylwadau wedi cau.