Indigenous Tweets: cyfweliad gyda Kevin Scannell gan @Gareth_Mitchell a @billt (Click, BBC World Service)

http://www.bbc.co.uk/iplayer/console/p00fvkxf
dechrau 11:40

Diddorol, y sylwadau gan @billt yn enwedig
e.e. “fel platfform o ran ieithoedd mae Twitter yn agnostig”

Mewn ffordd. Ond, yn fy marn i, y problem pwysicaf ar Twitter (a Facebook) i ieithoedd lleiafrifol yw’r shifft ieithyddol, sef angen ffiltro gwell ac efallai adnabyddiad iaith neu markup yn cleientiaid yn gynnwys twitter.com

Mae Indigenous Tweets ac Umap yn helpu gymaint.

(Wrth gwrs dw i eisiau rhyngwyneb Cymraeg ond fydd e ddim yn helpu gyda’r shifft ieithyddol o ran y cymuned o ddilynwyr. Rydyn ni wedi gweld yr un peth yn union gyda Facebook wrth gwrs.)

Gyda llaw o’n i ddim yn gwybod bod @Gareth_Mitchell yn siaradwr Cymraeg chwaith. Ei llun o Lundain: http://twitter.com/#!/GarethM/status/30618282218225664

Eitem trwy’r blog http://indigenoustweets.blogspot.com/2011/04/interview-on-bbc-world-service.html

Indigenous Tweets Cymraeg http://indigenoustweets.com/cy/