Saesneg yw’r iaith trafodaethau cyfryngau Cymraeg, teledu ac S4C?

Dw i wedi bod yn siomedig gyda’r we Cymraeg ers 2007.

Yn ddiweddar, mae lot o bethau wedi digwydd yn y maes cyfryngau: teledu Cymraeg a thrafodaethau am dyfodol S4C.

Dw i’n mor siomedig gyda’r diffyg erthyglau/cofnodion am gyfryngau Cymraeg – S4C yn enwedig.

Pam ydy’r sgyrsiau yn digwydd CYNTAF yn Saesneg?
http://www.clickonwales.org/2010/08/welsh-broadcasting-in-limbo/
http://www.clickonwales.org/2010/07/probing-the-deafening-silence-around-s4c%E2%80%99s-crisis/

Does dim problem Saesneg gyda fi, mae unrhyw un yn gallu postio unrhyw beth ar y we.

Ond dw i’n disgwyl mwy o Gymry Cymraeg a’r we Cymraeg.

Dyna ni.

10 sylw

  1. Dwi wedi trafod ychydig ar y cyfryngau/S4C yn y gorffennol. Sdim pwynt.. nifer yn darllen.. bron neb yn ymateb (dim ond yr usual suspects ffyddlon). Lot o bobl hefyd yn y diwydiant yn dal barn gref yn breifat ond ddim yn fodlon dweud yn gyhoeddus oherwydd eu gwaith.

    Mae’n mynd yn ddiflas iawn gwario amser prin ar sgrifennu mewn gwactod. Dwi byth wedi sgrifennu blog yn saesneg ar y we, ond dwi’n ystyried gwneud. Mae’r gynulleidfa yn filiwn gwaith yn uwch (oce ti’n denu trolls, ond dyna’r pris).

    Er hyn dwi’n meddwl fod angen barn unigolion, ac ar blatfformau annibynnol (nid MySpace/Facebook/Twitter). Mae newyddiadurwr professiynol yn gallu cael lot o sylw a ‘access’ i’r bobl iawn, ond yn aml mae nhw’n rhan o’r stori. Mae nhw’n” ddi-duedd” ond yn aml y stori yw nhw yn gwneud ffys am ‘beidio cael atebion’ (agwedd hunan-bwysig y cyfryngau torfol).

    Mae ychydig o drafodaeth wedi bod ar maes-e am S4C (nid fel yr hen ddyddiad). I ddod a sgwrs o Twitter i fan hyn.. mae angen fforymau trafod sy’n annibynnol.. fel fod y wybodaeth/drafodaeth ar gael am byth nid dan reolaeth cwmni masnachol, neu yn diflannu pan mai gwefan yn cau.

    Lot i gnoi cîl drosto.. Mae llawer mwy o Gymry Cymraeg ifanc ar y we nac yn 2007… falle un o’r pethau gorau allwn ni wneud yw denu nhw nôl i maes-e a dangos gwerth y cyfrwng? Neu arwain nhw i fewn drwy YouTube/Twitter ac ati?

  2. Dylen i sgrifennu blog call am y peth, ddim mewn tymer (fydde cyfle i gywiro’r camgymeriadau iaith a teipio wedyn). Jyst angen llusgo fy hun ffwrdd o’r 3 neu 4 peth arall dwi’n gweithio arno..

  3. Mae gen i flog Gymraeg ac un Saesneg ag rwyf wedi ysgrifennu yn diweddar am y diffyg sylwadau dwi’n cael i gymharu gyda fy mlog Saesneg – er fy mod i wedi bod yn flogio yn yr Gymraeg am 5 mlynedd ag yn y Saesneg am 6 mis.

    Fel yn llawer o elfennau o’r gymdeithas Cymru Cymraeg rwyf wedi darganfod fod yna hierarchaeth yn yr byd Cymraeg ar y we ag mae rhai unigolion yn cael digon o sylw tra bod eraill yn cael ei anwybyddu. Roddwn i yn aelod o Maes-e ar un tro ag roeddwn i’n teimlo fod yr un peth yn wir – fod sylwadau rhai pobol anwybyddus o’r byd Gymraeg yn yn creu trafodaeth tra bod eraill yn mynd heb sylw.

    Mae’n amser i’r cymuned Cymraeg ar yr we ddod ynghyd ag cefnogi ein gilydd – ag dim yn unig yr pobol anwybyddus ond yr unigolion ddi-clod sydd yn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw ar y we sydd angen gwybod fod rhywun allan yn yr rhyngrwyd yn clywed nhw.

  4. Mi wnaeth Ron Jones sgwennu erthygl bwysigam S4C yn Barn a gafodd ei gyhoeddi ar-lein, ond ydi mae swmp a sylwedd y drafodaeth yn isel. Mae sylwebaeth yn cael ei amsugno gan y teledu a radio, ac mae pawb sydd a rhywbeth i’w ddweud am S4C yn dueddol o gadw’n dawel oherwydd sensitifrwydd eu cwmniau/bywoliaeth.

    Does gen ti ddim llawer o tier proffesiynol i’r we Gymraeg chwaith. Dyma pam dwi’n bangio mlaen bod angen i bob sefydliad sydd a stake yn y cyfryngau (ac mae na lawer, o S4C i’r Cyngor Llyfrau ac eraill) roi buddsoddiad *rwan* yn y cyfryngau gwe a chymryd o o ddifri. Lle i ploncio sdwff ydi’r we i’r rhan fwyaf o’r sefydliadau hyn. Does dim llawer o ymgais i ddarganfod na chynyddu cynulledifa Gymraeg eu iaith ar-lein. Da ni heb grafu arwyneb be all ddigwydd ar y we Gymraeg, ond i wneud hynny mae angen buddsoddiad. Neu yr unig beth gawn ni ydi yr un pobol yn rhygnu mlaen a dal i drafod pam bod ni’n boddran gneud sdwff Cymraeg ar-lein mewn 5 mlynedd. Oedd boi mewn cynhadledd yn ddiweddar yn son ein bod ni’n gweld internet 2 tier yn datblygu: y rhyngrwyd broffeisynol a’r jam-makers. Wel, dim ond y jam-makers sydd di bod yn cynnal y we gymraeg. Allith hynna bara? Mae angen y tier broffesiynol i gynnal y jam-makers. Fel yn Google, mae na

    Dydi atgyfodi maes-e ddim yn ateb yfmi. Mae fforymau yn teimlo’n ddull hen ffasiwn, er fy mod yn caru y trafodaethau hirfaith oedd i’w cael yno. Mae diffyg sylwedd Twitter a Facebook yn codi braw arnai weithiau.

    Wn i ddim yr atebion, ond dwi’n gwybod bod cael sylw i sdwff Cymraeg ar-lein yn frwydr galed, ac mae angen cael cefnogaeth S4C ac eraill er mwyn cynyddu’r nifer o bobol sydd yn teimlo bod y we Gymraeg yn beth ‘normal’, nid yn le i gics a ffrics, chwadal y stori BBC na ar maes-e nol yn y dydd.

  5. Mae’r sefydliadau yn darllen nawr. (Dych chi’n gallu eu teimlo nhw?)

    Bydd buddsoddiad yn neis iawn a defnyddiol.

    Annwyl sefydliadau. Buddsoddwch mewn arbenigwr gyda PHROFIAD ARLEIN GO IAWN cyntaf. Her fawr, i gwmnïau cyfryngau yn enwedig – rydych chi’n hoffi pethau pert felly rydych chi’n chwilio am ddylunyddion cyntaf. Peidiwch. Cyn i chi neidio i mewn dylech chi chwilio am bobol sy’n deall cynnwys arlein, deall y dechnoleg, sy’n gallu adeiladu cymunedau arlein.

    (Dyn ni i gyd yn gallu enwi ein hoff engreifftiau o fuddsoddiadau annoeth yn y byd arlein hefyd.)

    Un syniad: darnau Uned 5 ar YouTube – dyw arlein ddim yn golygu gwefan newydd sbangli sbon (a drud) bob tro. Rydych chi’n gallu datrys problemau gyda teclynnau am ddim weithiau… Beth allech chi lanlwytho NAWR?

    @Rhodri
    Dylen ni disgwyl pethau amrywiol. Dylai niche yn bodoli am bob math o gymuned / cynnwys. Mae lot lot o fforymau ‘hen ffasiwn’ dal yn fywyiog yn ieithoedd eraill. Dw i ddim eisiau siarad am fforymau fel ‘yr ateb’ wrth gwrs. Mae popeth yn rhan o’r ecosystem.

    Dw i’n cytuno. Mae’r MSM (mainstream media fel blogwyr Saesneg yn galw fe) yn bwydo’r amaturiaid – a vice-versa mewn ffordd. Dyma pam mae’r ecosystem yn ddelwedd dda.

  6. Meddyliais am hwn pnawn ma a sidro, a yw hi’n bosib creu rhaglen Facebook, gan fod cymaint yn treulio/wastio’u hamser ar y gwefan, sy’n tynnu trafodaeth gan bobol? Ar yr un pryd defnyddio API Twitter i tynnu ‘tweets’ perthansol pobol? Bydd yr atebion sy’n cael eu tynnu yn gysylltiedig â phwnc gosodiedig ar wefan. I.e. Ar wefan penodedig “Ai Gari Williams oedd comedîwr gorau Cymru?” Bydd y cwestiwn yma’n cael ei yrru i’r rhaglen Facebook, a ‘tweets’ mae’r wefan yn ei weld yn berthnasol i’r pwnc yn cael eu tynnu a’u gosod gyd yn yr un lle. Tipyn o Yahoo answers fath o beth.

    Dwi’m yn meddwl bod API Twitter yn caniatâu labelu ‘tweets’ gyda iaith nac efo unrhyw bwriad gwneud?

  7. Huw, swnio’n ddiddorol. Efallai dylet ti greu rhaglen, wnaf i brofi e!

    Dyw Twitter ddim yn amgodio tweets am iaith yn anffodus ond allet ti drio Google Translate API am ddatgeliad iaith…

  8. Cofnod ddoe am sylwadau
    http://www.annatarkov.com/online-comments-need-an-overhaul-but-what-exa

    Diolch Rhodri – dw i ddim yn licio Paul Carr o gwbl! Ond dw i newydd wedi darllen Leo Laporte, dw i’n teimlo rhywbeth tebyg am Facebook a chynnwys Cymraeg. Mae’r canlyniadau yn difrifol i’r iaith Gymraeg arlein. Faint o sgyrsiau ydyn ni wedi colli yna? Siwr o fod, mae’r pethau dal ar gael ond
    – heb dolen parhaol
    – cau i Google
    – rhwng ffrindiau yn unig
    – ‘claddwyd’

    Blogiau yw gorau! Gyda blogiau a phlatfformau agored:
    – dyn ni’n creu cynnwys agored
    – agored i dolenni
    – agored i chwilio
    – weithiau dyn ni’n creu cynnwys ‘ar hap’ fel byproduct
    – polisi preifatrwydd hawsa. Pam? Paid postio unrhyw beth sensitif

Mae'r sylwadau wedi cau.