Dyma gopi o ebost sgwennais i at fynychwyr Hacio’r Iaith heddiw. Croeso i chithau ymateb iddo yma:
Wnes i ddim llwyddo i gasglu cyfeiriadu ebost pawb yn ystod Hacio’r Iaith felly dyma ebostio’r rhai hynny sydd gen i. Ychydig yn hwyr, ond gwell hwyr na hwyrach…
Yn anffodus does gen i ddim cyfeiriad ar gyfer sawl un (Owain Hughes, Eleri James, ac Emyr Thomas). Byddwn yn falch pe gallech chi basio’r neges ymlaen iddyn nhw os ydych chi mewn cyswllt.
Mae holl sesiynau Hacio’r Iaith rwan ar gael ar un ai fideo neu sain draw ar Hedyn|Trefnu’r Dydd Jest dilynwch y dolenni sydd yn yr amserlen.
Hac Bach
Dim ond nodyn bach sydyn ydi hwn i ddweud ein bod ni rwan wedi cynnal dau Hacio’r Iaith Bach ers un mis Ionawr, a’r ddau wedi bod yn llwyddiannus yn eu ffyrdd eu hunain. Dim ond cyfarfodydd bach anffurfiol oedden nhw (er bod yr un dwetha wedi tagio mlaen i gynhadledd Mercator er mwyn cael chydig yn fwy o bobol!).
Gallwch chi weld rhai o’r fideos ar https://haciaith.cymru
Be am i chi drefnu un bach lle rydach chi? Oes rhywun yn gêm i ymgynnull mewn tafarn neu gaffi yn y gogledd? Sa’n dda cael un bach yng Ngwynedd/Môn.
Haciaith Mawr
Dwi’n dechrau meddwl am yr un nesa diwrnod/2 ddiwrnod o hyd hefyd.Oes unrhyw syniadau ganddoch chi?
Roedd awgrymiadau fan hyn i wneud rhai mwy thematig: fideo, ymgyrchu, lleol ayyb
Oes unrhyw awch am hyn neu ddylid jest gwneud un cyffredinol eto?
Dwi’n credu byddai mis Medi/ Hydref yn adeg da i gynnal un. Be da chi’n feddwl?
Sesiwn Hacio Go Iawn?
Hefyd, oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwneud digwyddiad penodol ar gyfer hacio a rhaglennu? Weithiodd y pnawn hacio ddim yn Ionawr, ond dwi’n siwr y gellid gwneud rhywbeth difyr dros nos a gyda mwy o amser. Mae na lwyth o ddata ar gael sy’n ffrwythlon i’w hacio ar gyfer pwrpasau defnyddiol, neu gallen ni wneud cyfieith-a-thon ar gyfer pobol sydd heb sgiliau côdio ond sydd eisiau ymuno yn yr hwyl.Hwyl
Rhods
o.n. Gallwn ni symud y drafodaeth hon i http://hedyn.net os oes na ddipyn o ymatebion.
Diolch am yr ebost, dw i eisiau ymateb yma yn gyhoeddus. Mae’n well i rannu meddyliau a’r trafodaeth gyda pethau fel ‘na.
Hacio’r Iaith Mawr – bydd Medi/Hydref yn wych! Beth am rhywbeth cyffredinol – ond rhaid i ni wneud pethau ymarferol? Hoffwn i dysgu mwy am fideo Rhod – os ti eisiau trefnu dy sesiwn dy hun? Ydy’r Brifysgol ar gael eto?
Codio/rhaglennu – Dw i’n meddwl bod popeth yn hacio ond bydd e’n wych i gael rhywbeth. Syniad da. Mae’r syniad yn gwahanol iawn i Hacio’r Iaith – rhaid i ni trefnu mwy. (Dyma pam wnaeth y sesiwn hacio ddim yn llwyddiannus rili ym mis Ionawr.)
Hacio’r Iaith Bach – HAWDD IAWN i drefnu yn dy ardal, angen 2 neu mwy, tips fan hyn
Dyma bigion o’r ymatebion eraill hyd yn hyn:
Duncan Brown: “beth am Hacio Bywyd Cefn Gwlad?”
Erddin Llwyd yn credu bod “gwell cyfle o gael mics gwahanol o bobl os ti’n gwneud haciaith cyffredinolish”
Telsa Gwynne: “mae cyfieith-a-thon yn swnio’n hwyl […] llawer haws dod at gasgliadau am dermau
neu gywair neu beth bynnag pan fydd pawb yn yr un stafell.”
Mae yna gytundeb bod mis Medi yn adeg da, cyn i’r Prifysgolion ail-agor eto.
Mae’n edrych yn bosib y bydd yna Hacio’r Iaith Bach yn ystod Gwyl Arall yng Nghaernarfon ar y 23-25 Gorffennaf…i’w gadarnhau…
Diolch am rhannu, syniadau gwych!
Dyn ni’n gallu datblygu’r syniad Telsa, cyfieith-a-thon, yn bendant.
Hacio’r Iaith Bach yn ystod Gwyl Arall – edrych ymlaen! (Pryd? Nos Sadwrn neu Sul falle?)
Diolch am gadw’r bêl i rolio, Rhodri. Licio’r syniad o Hacio’r Iaith Bach yn ystod Gwyl Arall hefyd -fues i ddim i’r wyl llynedd ond awydd mynd leni ta beth.
Mae’r sesiynnau bach lleol yn gweithio’n dda – daeth tri wyneb newydd i’r digwyddiad yng Nghaerdydd nad oedd yn Aber y tro cyntaf.
O ran sesiwn hacio, mae ychydig bach o drafodaeth wedi bod ynglyn â’r wefan cwyno.org ac efallai mai o gwmpas hwn y gelli’r trefnu’r sesiwn hacio ‘go iawn’ cyntaf.
Fel Telsa, dw i’n meddwl bod lleoleiddio yng nghwmni eraill yn gallu bod yn fwy cynhyrchiol /llai unig. Dw i’n gwybod bod Telsa a Rhys Jones (ac eraill) yn Abertawe yn gwenud lot o leoleiddio, a bod criw Meddal yn brysur ochrau Bangor – beth petai ni’n cael diwrnod o leoleidido ar ddau safle (de a gogledd) ar yr un pryd a bod cyswllt skype/fideo cyson rhwng y ddau safle?