Hacio’r Iaith Bach: Aberystwyth 19.5.10 – 6.30pm

Mae cyfle i bawb sydd a diddordeb mewn trafod y we Gymraeg a’r we mewn ieithoedd lleiafrifol i ddod at eu gilydd yn Aberystwyth ar ddydd Mercher y 19eg o Fai am 6.30pm.

Mae’r sesiwn Hacio’r Iaith Bach yn digwydd ar ddiwedd cynhadledd ryngwladol Rhwydwaith Mercator ond yn agored i unrhywun, ac am ddim. Bydd cwrw a bwyd ar gael i bawb sy’n dod.

Ie, cwrw am ddim. Be well!

Bydd o’n digwydd yn foyer Adeilad Parry-Williams, ar Gampws Penglais, lle cynhaliwyd Hacio’r Iaith fis Ionawr. Mae map yma.

Mae’r gynhadledd yn canolbwyntio ar gydgyfeiriant cyfryngol ac amrywiaeth ieithyddol felly mae’n eithaf perthnasol i be da ni wedi bod yn ei drafod. Bydd pobol yno o ledled Ewrop yn sôn am eu profiadau o ymwneud â ieithoedd lleiafrifol ar y cyfryngau aml-blatfform.

Y bwriad o roi Hacio’r Iaith Bach ar ddiwedd y gynhadledd ydi rhoi cyfle i bobol sydd yn yr ardal i ddod i gyfarfod â rhai o’r cynhadleddwyr a sôn am eu projectau neu ddatblygu projectau eraill. Felly os da chi isio cyfarfod pobol o dramor neu jest isio sgwrs efo’ch gilydd am broject penodol bydd croeso i bawb.

Bydd yn reit anffurfiol ond bydd cyfle i chi ffurfio grŵpiau bach trafod os bydd digon o bobol.

Gallwch chi ddilyn trafodaethau am y gynhadledd ar Twitter trwy ddilyn y tag #merc10

Dewch yn llu, neu jest dewch yn dri, neu jest chi, bydd croeso mawr. 🙂

2 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.