http://www.chriscope.co.uk/2010/03/why-i…

http://www.chriscope.co.uk/2010/03/why-i-just-deleted-my-welsh-language.html

3 sylw

  1. Dyna biti, ond dw i’n hollol deall beth mae fe’n siarad. Mae’r byd y dysgwyr yn hollol wahanol i’r byd yr iaith fywiol. Mae hi’n anodd pontio’r bwlch rhwng y ddau ohonyn nhw. Mae’r byd y dysgwyr yn llawn o bethau fel dans twmpath, sgwennu ffurfiol, gramadeg a phethau Fictoriaidd. S’dim lot o bwyslais ar yr iaith yn yr ardal, y bobl sy’n byw ar hyn o bryd, neu siarad â phobol yn naturiol.

  2. Mae’n biti clywed bod Chris wedi gwendu hyn ac yn teimlo fel y mae. Mewn ffordd, cyrhaeddodd Cymru fel dysgwr bron-rhugl a gyda chysylltiadau gyda nifer o siaradwyr Cymraeg ‘go iawn’ yn barod (drwy flogio) fel na fu’n rhaid iddo fynd drwy’r broses anwytho twmpath ddawnsaidd hunllefus y mae pob dysgwr arall yn ei wynebu. Ond oherwydd ffactorau personol sy’n ymddangos yn ei lyfr (ac ar ei flog cyn ei ddileu) mae’n cael anhawster adeiladu ar gysylltiadau ehangach.

    Tra dw i’n teimlo’n drosto, mae’n dangos mai dim ond hyn a hyn o gysylltiadau allwch wneud ar-lein a bod rhaid gwneud mwy o ddefnydd o rwydweithiau cymdeithasol traddodiadol o bryd i’w gilydd.

Mae'r sylwadau wedi cau.