Testun-i-lais Cymraeg

Mae tipyn o waith wedi ei wneud dros y blynyddoedd ar greu beiriant testun-i-lais Cymraeg fel yr ymdrech yma gan brosiect WISPR, sydd a’r fantais o fod yn agored a rhydd i’w ddefnyddio.

Mae cwmni CereProc o’r Alban yn gwneud gwaith diddorol yn y maes a mae nhw’n gallu creu llais drwy samplo lleisiau adnabyddus fel Obama neu Arnie. Mae nhw wedi cydweithio i greu llais ar gyfer Catalaneg a fe fyddai’n dda gweld un Cymraeg. Pwy fyse’ch chi’n dewis fel llais safonol? Dewi Llwyd, Beti George neu efallai Jonsi?

4 sylw

  1. Diolch Dafydd, wnes i lawrlwytho WISPR am Windows. Ond mae e jyst llyfrgell dw i’n meddwl, ble mae’r demo?

  2. Mae llais newydd ar y ffordd. Bydd wedi’i integreiddio yng ngwefan newydd SALT Cymru a fydd yn cael ei lansio ar Fawrth y 15fed. Mae’r llais yn seiliedig ar yr un adnoddau WISPR a’r hen lais, ond mae’n swnio’n llawer mwy naturiol. Bydda’ i’n trefnu seminar cyn bo hir ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd â diddordeb. Llenwch y ffurflen ar wefan gyfredol SALT cymru (www.saltcymru.org) os oes gennych chi ddiddordeb.

  3. Newyddion da iawn Gruff. Beth yw’r datblygiadau o ran llais i destun Cymraeg?

Mae'r sylwadau wedi cau.