Bydd hi’n ben-blwydd hapus yn 20 oed ar WordPress ar Fai 27 eleni ac mae nhw’n cymryd y cyfle i ddathlu’r hyn mae WordPress a chymuned WordPress wedi ei gyflawni yn ystod y cyfnod hwnnw. Er mwyn dathlu mae gwefan arbennig WP20.wordpress.net wedi ei chreu sy’n rhestru’r digwyddiadau dathlu sydd ar ddigwydd ar draws y… Parhau i ddarllen WordPress yn dathlu 20 mlynedd!
WorddPress 6.2 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu 0 wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wefan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Croeso i WordPress 6.2 Mae WordPress 6.2 yn cynnwys mwy na 292 gwelliant a… Parhau i ddarllen WorddPress 6.2 Newydd
WordPress Sensei LMS – creu cyrsiau a gwersi ar-lein
Mae’r ategyn Sensei LMS, yn cynnig y cyfle i greu a darparu cyrsiau, gwersi a chwisiau ar -lein ddifyr a deniadol. Mae’r ategyn yn gweithio ar sail meddalwedd gwefannau WordPress ac yn eich galluogi i ddarparu tudalennau gwybodaeth, cwisiau a phrofion, a’u crynhoi fel cyrsiau. Mae modd defnyddio’r cwisiau i fesur cynnydd eich dysgwyr ac… Parhau i ddarllen WordPress Sensei LMS – creu cyrsiau a gwersi ar-lein
WordPress 6.1 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu o wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wefan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: WordPress 6.1 Beth sy’n Newydd Diolchiadau Rhyddid Preifatrwydd Croeso i WordPress 6.1 Mae’r dudalen… Parhau i ddarllen WordPress 6.1 Newydd
Holiadur Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop
Cais am gymwynas! Oes gyda chi farn ar y gefnogaeth ddigidol i gymunedau ieithyddol yn Ewrop, a’r Gymraeg yn benodol? Mae project Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop yn gofyn i chi gyfrannu at eu holiadur byr. Holiadur: https://european-language-equality.eu/language-surveys/ Diolch!
Signal Desktop Cymraeg
Mae Signal Desktop nawr ar gael yn Gymraeg. Mae modd gosod y rhaglen bwrdd gwaith ar gyfer Windows, MacOS a Linux – Debian o wefan Signal. Beth yw Signal? Rhaglen negesu a fideo gysylltu wedi ei amgryptio yw Signal. Mae’n bosib cyfathrebu gydag unigolion neu grwpiau, drwy destun neu fideo. Mae ganddo lefelau diogelwch uwch,… Parhau i ddarllen Signal Desktop Cymraeg
WordPress 5.9 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wegan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: WordPress 5.9 Adeiladwch y wefan rydych chi wedi bod eisiau ei chael erioed –… Parhau i ddarllen WordPress 5.9 Newydd
Cysgliad am Ddim
Dyw hi ddim yn hawdd ysgrifennu Cymraeg cywir a dyna lle mae Cysgliad mor ddefnyddiol. Mae’r casgliad o raglenni – gwirydd sillafu, thesawrws a geiriadur ar gael am ddim ar gyfer defnyddwyr Windows. Ar gyfer defnyddwyr ar offer symudol iOS, Android yn ogystal â chyfrifiaduron MacOS a Linux mae Cysill ar Lein ar gael i’w… Parhau i ddarllen Cysgliad am Ddim
S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni
Wyddoch chi fod S4C Clic yn darparu API, ers sbel nawr? Mae’n cynnig ffordd hawdd o gael metadata am sioeau mewn fformat JSON. Dyma fanylion ar Hedyn ar sut i ddefnyddio’r API. Gadewch wybod os ydych chi’n creu unrhyw beth gyda fe, neu os oes gennych syniad. Er enghraifft mae’r bot Twitter newydd Clic Off… Parhau i ddarllen S4C Clic yn darparu API o ddata rhaglenni
Common Voice Cymraeg – angen dilysu erbyn 5 Rhagfyr
Mae’r swp data llais nesaf i gael ei ryddhau ganol mis Rhagfyr 2021. Rhagfyr 5ed yw’r dyddiad cau ar gyfer cyfrannu eich llais a dilysu recordiadau ar gyfer y swp yma. Y flaenoriaeth ar hyn o bryd yr hyn yw dilysu’r recordiadau. Mae 113 awr wedi eu dilysu ac 143 awr wedi eu recordio, felly… Parhau i ddarllen Common Voice Cymraeg – angen dilysu erbyn 5 Rhagfyr