Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap

Ar Haclediad cynta’r flwyddyn bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn busnesa yn sioe tech CES, yn clywed mwy am Bryn ar y radio, snarkio am Snapchat a phendroni am BT Openreach (mwy diddorol nac y mae’n swnio, addo!). Fel pob rhifyn arall byddwn yn pigo’r gorau o straeon tech y mis ac yn hedfan off… Parhau i ddarllen Haclediad 47: Hwyr fel Hywel yr Hwyaden Hap

Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo

Yn rhifyn mis Tachwedd bydd Iestyn, Sioned a Bryn yn sgwrsio am ddiogelwch Talk Talk, yn codi gwydraid i gofio Telsa Gwynne ac yn clymu eu tafodau rownd Duolingo yn y Gymraeg. Hyn i gyd a llwyth o sangiadau a tangiadau off i lwyth o lefydd diddorol (a lot o drafod pa mor enwog di’r… Parhau i ddarllen Haclediad 45: Siarad Siarad, cofio hen ffrindiau a Duolingo

Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn

Ydy, mae hi wedi bod yn rhy hir, mae’r Haclediad yma wedi hiatus hafaidd hir. Wedi damwain Bionic Bryn, mae’r criw nôl yn dod â’r diweddaraf o fyd tech i’ch clustiau, gyda’r gymysgedd arferol o fwydro a chabinet diodydd llawn. Tro ’ma bydd popeth o deganau sgleiniog newydd Apple i sinema 3D a cheir clyfar… Parhau i ddarllen Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn

Haclediad 43 — Cwcio ar Gas

Yn yr Haclediad diweddaraf byddwn yn gadael i Google weld ein heneidiau wrth ddefnyddio Google Photos newydd, yn cynhyrfu dros gynhadledd datblygwyr byd-eang Apple (trïwch ddeud hynna efo llond ceg o uwd); yna’n yn myned i fyd y rants llyfrau digidol (eto) wrth ddarganfod nad yw llyfr Cymraeg y flwyddyn ar gael mewn fersiwn digidol.… Parhau i ddarllen Haclediad 43 — Cwcio ar Gas

Haclediad 42 – Minilediad Haciaith 2015

Rhifyn byr a bachog o’r Haclediad sydd i’w gael y mis hwn, wedi i’r ffliw daro Iestyn, bydd Bryn a Sioned yn mentro i gwblhau podlediad mewn amser record Byd! Bydd sôn am Haciaith ’15 ym Mangor a llwyth o fwydro amserol technolegol – mwynhewch!

Haclediad 41 — detox, pa ddetox?

Croeso i Haclediad cyntaf eleni! Mae Ionawr yn amser i iacháu’r meddwl a chorff… neu i gario mlaen yn union fel oeddech chi, hwre! Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn eich tywys yn gyfforddus mewn i 2015 wrth drafod cynlluniau brawychus y llywodraeth i fynnu gallu dad-gryptio pob neges anfonwn ni o hyn mlaen (iaics),… Parhau i ddarllen Haclediad 41 — detox, pa ddetox?

Haclediad #40 — Bywyd yn dechrau yn Ddeugain!

Ydan, ry’n ni wedi cyrraedd 40 rhifyn o’r Haclediad — diolch am sticio efo ni! Yn y bennod hyd-yn-oed-llai-ffurfiol nac arfer bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dathlu pedair blynedd o’u hoff dechnoleg, DDIM yn trafod ‘bendgate’ yr iPhone 6 a thrio deall os yw Windows wedi anghofio sut i gyfri wrth fynd yn syth… Parhau i ddarllen Haclediad #40 — Bywyd yn dechrau yn Ddeugain!

Haclediad #39 – Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest

Croeso i rifyn 39 (bron y 4-0 fawr) o’r Haclediad – byddwn ni’n trafod syniadau Cymdeithas yr Iaith am ariannu darlledwr amlgyfrwng newydd i Gymru, e-lyfrau plant Cymraeg yn dod i iBooks, Bryn yn hacio weiars a checkio nôl mewn gyda system reoli tŷ Iestyn wrth i’r tywydd oeri. Joiwch, a chofiwch, sdim sôn am… Parhau i ddarllen Haclediad #39 – Cacen Sali Mali, Hack(en) Bryn Salisbury a mwy o Nest Test Iest

Haclediad #38: tripiau haf a chips poeth

Y tro ‘ma ar eich hoff bodlediad crasboeth tech Cymraeg: Bryn yn esbonio jyst pam fod DRIP am fusnesa ar eich holl fanylion personol, mwy ar ffonau Microsoft yn colli 18,000 o weithwyr (ac un cwsmer o’r enw Sioned), a chipolwg ar y ‘Tripadvisor’ Cymraeg “Ar y Ffordd”. Hyn oll a llawer mwy i’ch clustiau… Parhau i ddarllen Haclediad #38: tripiau haf a chips poeth

Haclediad #37: Google… anghofia hi.

Tro yma ar yr haclediad bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn rhoi Nest Iest ar Test (iep, thermostat clyfar, w, cyffro!), gofyn i Google ein hanghofio ni, ac yn ail-fyw dyddiau euraidd gemau Nintendo trwy gemau newydd y Wii U o gynhadledd E3 yn Vegas. Ac wrth gwrs, bydd digon o jôcs gwael a thrafod… Parhau i ddarllen Haclediad #37: Google… anghofia hi.