WordPress 4.6

Mae WordPress 4.6 yn cael ei ryddhau heddiw. Cofiwch ddiweddaru! Mae’n cynnwys diweddariadau diogelwch yn ogystal â nodweddion newydd.   Dyma sy’n newydd: Diweddaru Llyfn Peidiwch colli’ch lle, arhoswch ar yr un dudalen tra eich bod chi’n diweddaru, gosod, a dileu eich ategion a’ch themâu. Ffontiau Cynhenid Mae bwrdd gwaith WordPress nawr yn cymryd mantais… Parhau i ddarllen WordPress 4.6

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Ystadegau WordPress 4.5

Bydd WordPress 4.6 yn cael ei lansio Dydd Mawrth nesaf, ac mae’n gyfle i edrych yn ôl ar berfformiad Cymraeg WordPress 4.5. Mae’r ystadegau llwytho i lawr yn dangos 446 o becynnau ryddhau a 3,356 pecyn iaith hyd heddiw. Roedd y ffigyrau cyfatebol am WordPress 4.5 yn 250 a 3,369, felly mae rhywrai wedi bod… Parhau i ddarllen Ystadegau WordPress 4.5

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud. 18/07/16 Hen Lyfrgell Caerdydd

Mae rhwydwaith creadigrwydd Prifysgol Caerdydd – Caerdydd Creadigol – yn cynnal noson i ddangos prosiectau Cymraeg yn yr Hen Lyfrgell, Caerdydd, 18:30 – 20:00 ar y 18fed o Orffennaf 2016.  Dyma’r arlwy: Huw Marshall  – Awr Cymru Cai Morgan – PUMP Daf Prys – FIDEO8 Dyma’r manylion o wefan Caerdydd Creadigol: “Mae ‘Dangos a Dweud’ Caerdydd Creadigol… Parhau i ddarllen Caerdydd Creadigol: Dangos a Dweud. 18/07/16 Hen Lyfrgell Caerdydd

Generation Beth a Disqus yn Gymraeg

Helô Hacieithwyr hoff! Ro’n i’n chwilio am bethau ynglyn â Disqus yn Gymraeg yn gynharach pnawn ‘ma a meddwl y baswn i’n cofnodi hyn yn fa’ma – gobeithio y bydd o ddiddordeb! Yn y gwaith (Cwmni Da) dw i a Phil Stead wedi bod yn gweithio ar brosiect cyffrous iawn sy’n cael ei lansio ar… Parhau i ddarllen Generation Beth a Disqus yn Gymraeg

Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes am gyflogi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

Dwi’n postio’r swydd yma ar ran Dawn Knight, CorCenCC. Y dyddiad cau yw 24/11/15 ‘CorCenCC – Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes: Dull cymunedol o adeiladu corpws ieithyddol’ Gwahoddir ceisiadau ar gyfer Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol i ymuno â phrosiect rhyngddisgyblaethol ac aml-sefydliadol fydd yn creu corpws ffynhonnell agored o Gymraeg cyfoes ar raddfa eang (CorCenCC). Nod y… Parhau i ddarllen Corpws Cenedlaethol Cymraeg Cyfoes am gyflogi Cydymaith Ymchwil Ôl-ddoethurol

WordPress iOS ar gael yn Gymraeg

Mae WordPress iOS nawr ar gael yn Gymraeg ac yn gweithio ar iPhone, iPad ac iPad touch. Mae’r ap yn cynnig modd o weithio ar wefannau WordPress.com a gwefannau hunanwesteio ar sail WordPress.org. Mae hefyd yn cynnwys Darllenydd sy’n fodd o ddarllen cynnwys awduron eraill o fewn byd WordPress. Dyma’r cyflwyniad swyddogol: Mae ysbrydoliaeth yn… Parhau i ddarllen WordPress iOS ar gael yn Gymraeg

Thunderbird yn Gymraeg

Mae Thunderbird yn raglen amlbwrpas, cyfoethog sy’n delio gydag e-bost, negeseuon sgwrsio, gan gynnwys Twitter a Facebook, calendr a thasgau. Mae popeth yma ar gyfer prysurdeb bywyd! A wnaethoch chi erioed golli e-byst o gyfrif ar-lein erioed, wel mae Thunderbird yn cynnig modd i’w cadw’n ddiogel os fydd rhywbeth yn digwydd i’ch cyfrif neu ddarparwr… Parhau i ddarllen Thunderbird yn Gymraeg

WordPress 4.3 yn Gymraeg

Mae un o raglenni creu gwefannau mwyaf poblogaidd newydd gael ei ddiweddaru ymhellach ac yn parhau ar gael yn Gymraeg. Hyd at ddoe cofnodwyd fod 205 o wefannau yn defnyddio’r Gymraeg, cynnydd o 50 ers y llynedd, cynnydd da felly. Y cynnwys newydd… Cyfrineiriau Amgen Cadwch eich gwefan WordPress yn fwy diogel drwy’n dull cyfrineiriau… Parhau i ddarllen WordPress 4.3 yn Gymraeg

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion

Cyfweliad fideo am Google Translate a’r Gymraeg

Cyfweliad gydag MacDuff Hughes, un o beirianwyr Google sy’n cynnwys rhywfaint o drafodaeth ar y Gymraeg ac anghenion ieithoedd llai eu defnydd eraill. Mae’r drafodaeth yn un o gyfweliadau Coffee with a Googler ar Flog Datblygwyr Google. Diolch Dewi.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion, post