Trydar Cymraeg – Y Tair C: Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig 

TRYDAR Cymraeg – tyfu a datblygu

Mae Twitter yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg ac mae nifer cynyddol o unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus yn ei ddefnyddio. Ond un pryder yw fod y nifer sy’n dilyn Twitter Cymraeg ein sefydliadau – cynghorau lleol, cyrff cyhoeddus ac ati – yn is o lawer na nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae postiad ar y blog yma’n cyfeirio at y sefyllfa yn Wrecsam . Y trydarwr, Siôn Jobbins, @MarchGlas, sy’n rhannu ei awgrymiadau ar gyfer cynyddu dilynwyr.
Tan mis yn ôl roeddwn yn Bennaeth Hyrwyddo ar y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gyda’r criw positif a gweithgar yn y sefydliad yn gyfrifol am roi gwybodaeth ar twitter y Llyfrgell (@LlGCymru) a facebook. Dyma rai sylwadau gall fod o werth i sefydliadau eraill Cymru wrth iddynt geisio denu nifer sy’n ei dilyn ar Twitter yn Gymraeg.

Mae’n bwysig i ni gynyddu niferoedd y defnyddwyr er mwyn sicrhau parhâd y gwasanaethau Cymraeg – sawl criw cysylltiadau cyhoeddus a charedigion yr iaith sy’n becso wrth feddwl am Adroddiad Monitro’r Gymraeg fel a gafwyd yn Wrecsam?

Yn fras, o ran y Llyfrgell, roeddem ni’n anelu i ddanfon 3 twît y dydd yn  ddwy iaith (felly sgwennu 6 twît). Byddem yn trydar ar yr un pwnc ond ddim yn cyfieithu yn slafaidd.

Roedd ganddom ni 1,000 dilynwr ar @LlGCymru a jyst dros 3,000 ar @NLWales. Ratio o rhywbeth fel 3 neu 4 – 1 o blaid y Saesneg on ratio uchel iawn iawn i’r Gymraeg o gofio fod Saesneg yn iaith ryngwladol.

Dwi’n meddwl fod llwyddiant y Llyfrgell, o bosib, yn eithriad i’r norm. Mae’n adlewyrchu natur defnyddwyr y Llyfrgell. Mae hefyd yn adlewyrchiad fod y Llyfrgell yn cael ei gweld fel lle naturiol Gymraeg ac felly roedd pobl yn hyderus y byddai nhw’n cael yr un lefel o wasanaeth yn y Gymraeg (mwy efallai?) â’r Saesneg. Rhan o’r broblem i gynghorau lleol Cymru a sefydliadau eraill yw fod pobl dal i’w gweld fel sefydliadau Saesneg sydd yn ‘cyfieithu stwff’ i’r Gymraeg – y Saesneg yw’r default gyda’r Gymraeg yn dod wedyn.

Mae’n anodd newid hyn! Rhyw ffordd mae angen i’r sefydliad ddatblygu strategaeth a meddylfryd i Gymreigio’r gwasanaeth Gymraeg fel fod pobl ddim yn gweld yr ochr Gymrae fel fersiwn arafach, hwyrach o’r default Saesneg ond ei weld fel gwasanaeth sy’n sefyll ar ei thir ei hun sydd cystal ond gwahanol i’r ochr Saesneg. Mae angen felly creu sîn Gwe2 Gymraeg – ac hoffwn awgrymu fod cynghorau a sefydliadau eraill ddod at ei gilydd i drafod hyn a helpu ei gilydd. Weithiau, bydd angen, fel gwanaeth @CyngorCaerdydd, ddanfon trydar gonest allan yn gofyn pobl i ddilyn y gwasanaeth Gymraeg.

Felly, dyma rai pethau pethau a ddysgais tra gyda’r Llyfrgell.

1. Dau gyfrifcyfrif Saesneg a chyfrif Cymraeg. Dyna wnaeth Caerdydd. Os, mae risg o rhyw fath – h.y. y gwahaniaeth mawr rhwng dilynwyr Saenseg a dilynwyr Cymraeg. Ond mae hwn yn rhywbeth seicolegol bwysig – mae’n dangos fod y Gymraeg yn iaith go iawn. Gwyddoch wedyn fod gennych gorff o bobl (pa bynnag bychan mewn nifer) sydd yn gallu defnyddio’r Gymraeg. Mae modd meithrin y nifer yma fel eu bod yn defnyddio rhagor o’r gwasanaethau Cymraeg. Dwi hefyd ddim eisiau darllen yr un neges ddwywaith syth ar ol ei gilydd mewn dwy iaith. Mae hyn yn gwneud i’r Gymraeg edrych fel ‘after thought’ neu, os yw’r Gymraeg gyntaf, mae’n rhoi’r argraff fod trydar yn Gymraeg fel rhegi – mae’n rhaid trydar yn unionsyth yn Saesneg rhag pechu pobl. Mae hefyd jyst yn  hynod irritating i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg ac yn gwastraffu lle ar y ffrwd Twitter.

2. Mae’r Llyfrgell yn defnyddio platfform Hootsuite oedd yn galluogi ni i gael dau (neu fwy mae’n siwr) cyfrif ar yr un rhyngwyneb. Roedd hyn yn golygu fod modd i’r un person sgwennu’r 2 twîts yn y ddwy iaith a’u danfon allan. Polisi y Llyfrgell oedd anelu i ddanfon 3 twît y dydd gan weithiau amseru nhw i fynd allan yn y nos os oeddem am gyrraedd pobl gwahanol – sdim rhaid i twîts y sefydliad fod rhwng 9.00 – 5.00! Mae Hootsuite yn galluogi chi i’w danfon ddiwrnodau’n hwyrach (handi os ydych yn mynd off ar wyliau hefyd).

3. Roeddwn i wastad yn danfon y Gymraeg allan yn gyntaf fel fod ‘added value’ i’r Gymraeg a hefyd i gael gwared ar y stigma fod y Gymraeg yn eilradd neu’n gyfieithiad o’r Saesneg. Mae hyn yn rhan o’r strategaeth i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ar we ac mewn cymdeithas. Roeddwn i’n teimlo fod hwn yn un ffordd o ddangos fod y gwasanaeth Cymraeg yn un go iawn ac nid fersiwn ‘odd’ o’r Saesneg.

4. Wrth drydar, baswn i’n aml yn rhoi bwlch o rhyw 5 neu 10 munud neu fwy rhwng y ddwy iaith. Wrth gwrs os oedd yna neges bwysig, roeddwn i’n danfon y negeseuon yr un pryd. Roeddwn yn rhoi bwlch rhwng y ddwy iaith am sawl rheswm:

a) Mae pobl unai’n dilyn y ffrwd Gymraeg neu Saesneg. I bob pwrpas, doedden nhw fawr callach os oedd y Saesneg 5 munud yn hwyrach na’r Gymraeg

b) Os oedden nhw’n dilyn y ddwy iaith, yna roedd rhoi bwlch yn help wrth ddarllen ac yn gwneud y neges yn gryfach gan fod e’n dod lan ddwy waith ac nid fel un bloc.

c) Prin yw’r bobl sy’n dilyn Twitter yn fyw, felly, wrth fwrw golwg dros ei ffrwd Twitter, dyweder amser cinio, yr ail twît fyddai’n dod gyntaf.

Os ydy’r sefydliad yn sensitif am hyn, yna gellid byrhau’r gwahaniaeth, neu hyd yn oed, trydar weithiau’n Gymraeg gyntaf ac weithiau’n Saesneg gyntaf. Ond plîs, heblaw fod neges bwysig, oes wir angen trydar union yr un pryd?

5. Y math o negeseuon: 

a)  Mae pobl yn hoffi ffotos – mae pobl yn hoffi ffotos o bobl hyd yn oed yn fwy! Roedd lot o bobl yn ail-drydar ffotos.

b)  Byddem yn edrych yn Dyddiadur Desg y Lolfa ac ar google am anniversaries neu digwyddiadau neu dyddiadau mewn hanes. Wrth gwrs, bydd angen i chi gael stwff sy’n berthnasol i’ch sefydliad ond ddim mynd dros ben llestri! Rhai awgrymiadau – gemau rygbi a phêl-droed, Cân i Gymru, dydd Santes Dwynwen, Diwrnod Ewyllus Da yr Urdd, eisteddfod gylch. Mae ‘na wastaf Diwrnod Bwyta Tatws neu Ddiwrnod Cenedlaethol Gwisgo Fflip-fflops neu efallai Ddiwrnod y Menywod/Ieithoedd/Addysg y Cenhedloedd Unedig. Bachwch arnyn nhw!

c)  Cofio tagio pobl – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg. Roeddwn i’n @io rhaglenni Saesneg i fy trydar Cymraeg – pam lai? Mae’r di-Gymraeg weithiau’n RT stwff Cymraeg achos mae’n quirky neu mae nhw wir yn falch o gael y sylw. Falle fod nhw hyd yn oed yn siarad Cymraeg. Mae hefyd yn ffordd syml o godi proffil y Gymraeg ar Twitter ac felly gwneud ein gwaith ni i gyd yn haws a mwy ‘normal’ ym marn cymdeithas. Mae modd defnyddio y stats yma wedyn yn eich adroddiad blynyddol ac mae tebygrwydd cryf da fod ‘na pobl Cymraeg yn gweld y  RT ac yn eich dilyn chi.

c)  Thema – efallai twît y dydd yn arwain lan at ddigwyddiad e.e. Dolig, diwrnod pwysig i’r sefydliad, gêm ryngwladol?

6.   Creu Rhwydwaith – mae hyn yn bwysig, yn enwedig yn y Gymraeg.

a) Dilyn mwy o bobl – bydd canran uchel ohonyn nhw yn dilyn chi wedyn.

b) Trafod gyda pobl eraill o’r un diddordeb neu ardal daearyddol a gofyn i’w haelodau nhw ddilyn chi.Chi’n help nhw hefyd wrth gwrs.

c) Cystadleuaeth – oes rhywbeth gallwch roi am ddim? Tocyn i sioe neu jyst tocyn paned i ddilynwyr? Efallai fod modd cynnig rhywbeth ar y cyd gyda sefydliad neu busnes arall?

7. Steil

Mae angen bod yn safonnol ond os yw’r Saesneg yn defnyddio ‘journalese’ wrth sgwennu, pam ddim y Cymraeg? Efallai bod lle i ddefnyddio steil mwy agos atoch? Ein hiaith ni yw hon, beth am fwynhau ei defnyddio!? Mae angen i’ch steil fod yn gyfforddus i’w gynulleidfa darged. Gall hynny gymryd i ystyriaeth daearyddiaeth (acen), cefndir, lefel safon yr iaith (awdurdodol neu anffurfiol). Bydd rhai sefydliadau’n ceisio meddwl am ‘lais’ i’r trydar – dychmygu sut lais fase’r newyddiadurwr Dewi Llwyd neu’r cyflwynydd pêl-droed Dylan Ebenezer neu’r cyflwynydd rhaglenni plant Anni Llŷn, yn trydar ynddo? Gall hyn roi canllaw i bobl wrth drydar sy’n handi os oes tîm ohonoch yn trydar ar ran y sefydliad. Ond yn fwy na dim, does dim rhaid i ni feddwl am yr athrawes Gymraeg bob tro fyddwn ni’n trydar!

8. Cymreig

a) Yr holl bwynt o ddilyn twitter yn Gymraeg yw ei fod yn Gymreig! Os yw jyst yn gyfieithiad o’r Saesneg bydd pobl yn sefyll gyda’r Saesneg. Polisi y Llyfrgell oedd 3 twît gwahanol y dydd ar yr un pwnc yn y ddwy iaith. Ond doedd y Gymraeg ddim yn gyfieithiad o’r Saesneg – roeddem yn defnyddio cyfeirnodau diwylliannol, hanesyddol a chyfredol gwahanol .

b) Mae modd sgwennu mwy o twîts Cymraeg nag sydd i’w gael yn Saesneg – falle cwpwl o twîts yr wythnos yn fwy ond ar bynciau gwahanol. Pam lai? Os yw rhywun yn gallu siarad 2 iaith yna mae’n gwneud sens fod nhw efo acses i 2 ddiwylliant. Gellir cyfiawnhau hynny (os oes angen) gan fod mwy o amser yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg yn ateb cwestiynau penodol neu’n re-tweetio stwff, felly, mae cwpwl o twîts ychwanegol i’r craidd gwybodaeth swyddogol y Cyngor, yn dderbyniol.

c) Dydy ‘Cymreig’ ddim yn golygu Cymru chwaith. Mae modd trydar am bethau rhyngwladol hefyd – ond rhowch gyd-destun Cymreig iddo. Ac wrth gwrs, nid diddordeb dilynwyr trydar Saesneg ei hiaith yw’r ‘norm’. Mae ‘na fyd-olwg Gymraeg i’w chael; mwy o ddiddordeb mewn iaith a thraddodiad efallai, gwell dealltwriaeth o wahaniaethau tramor.

ch) Peidiwch byth, byth, byth, trydar ‘Aberawe, De Cymru’! Oes unrhyw un sy’n dilyn trydar yn Gymraeg ddim yn gwybod fod Abertawe yn ne Cymru? Ydy nhw am ddrysu rhwng Abertawe De Cymru ac erm, Abertawe Papua Guinea Newydd?  Felly, ‘Abertawe’, jyst ‘Abertawe’. Ac fel arall, oes angen dweud ‘Gogledd Cymru’ a ‘De Cymru’ o gwbl? Beth sy’n bod ar ‘y gogledd’ ac ‘y de’? Ac ie, dwi’n edrych arnat ti fan hyn @LlyrGruffudd AC y Gogledd … ond nid Llyr yw’r unig un sy’n euog o hyn o bell ffordd!

d) Y pwynt bach olaf. Os ydych yn rhoi dolen ar eich postiad Twitter Cymraeg … rhowc ddolen i’r dudalen Gymrae? Eh? Checiwch gyntaf i weld os oes postiad Cymraeg ar Wicipedia neu Bywgraffiadur arlein dudalen y Llywodraeth, cyngor neu’r fusnes. Os oes ddim, iawn, ond mae’n bwynt bach ond pwysig.

Mae’r pwyntiau yma yn rhan o’r strategaeth o ddangos fod y Gymraeg ddim jyst yn gyfieithiad o’r Saesneg. Mae’n rhan bwysig o newid y mantaliti hynny. Heb newid y mentaliti yma bydd adnoddau’r Cyngor wastad yn cael ei ‘wastraffu’ ar darparu gwasanaeth sydd ond yn cael ei defnyddio gan leiafrif bychan iawn.

Dwi am roi enghraifft penodol gan gyfeirio at Gaerdydd – dim ond gan ‘mod i wedi fy magu yn y ddinas a bod @CyngorCaerdydd wedi bod yn ddigon dewr a chall i ofyn i bobl i’w dilyn (… ond peidiwch gwneud hyn yn rhy aml, rag i chi edrych yn desparet).

Felly, yn yr un modd ag y byddai gweithdrefn a pholisi casglu llyfrau llyfrgell yn Sblot (dyweder) yn wahanol i un yr Eglwys Newydd (ond o fewn strategaeth fawr ganolog y Cyngor wrth gwrs) mae’n iawn fod y math o drydar sydd yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gallu amrwyio – ond gan sicrhau fod y gwybodaeth craidd corfforaethol yr un peth. Baswn i’n dadlau fod  2 gwasanaeth trydar ychydig yn wahanol yn y ddwy iaith yn ei gwneud ill dau yn fwy diddorol i bobl ddilyn y dau ffrwd ieithyddol.

9. Rhai syniadau ar gyfer strands Cymreig

  • holi dilynwyr @CyngorCaerdydd i twîtio nol yn dweud lle cawsant eu magu – Caernarfon, Llundain, Pakistan, Aberystwyth – ffordd i bobl fagu perthynas â chi.
  • Lle mae dilynydd pellaf @CyngorCaerdydd yn byw?
  • Beth am atgofion Caerdydd mewn 140 nod?
  • Hoff air Cymraeg?
  • Cas air Cymraeg?
  • Hoff enw lle yng Nghaerdydd … a rhoi’r atebion i Radio Cymru fel eitem difyr i’r gwasanaeth newyddion neu stori ar Heno ar S4C!
  • Awgrymwch enwau Strydoedd Cymraeg newydd?
  • Beth am gael bach o hwyl gyda’r Gymraeg a gyda’r iaith – cyfres o twîts ar ‘iaith Glantaf a Plasmawr?’
  • Dywediadau Cymraeg doniol o Gaerdydd
  • Atgofion disgyblion ysgolion Cymraeg Caerdydd
  • Grwpiau pop Cymraeg o Gaerdydd gyda dolen i YouTube
  • Ystyr rhai o enwau llefydd Caerdydd

Yn syml, meddwliwch am stwff bydd pobl yn siarad amdano dros baned!

Cofiwch y 3 C:

Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig

Siôn Jobbins (@MarchGlas)