Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a’r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad. Ond yn llwyth mwy o hwyl, mae blas o gyfweliad gyda Geraint Howells o gwmni cyfieithu gemau Shloc gyda ni, mewn crossover gyda podlediad Sionedigaeth! Wrth gwrs mae’r A-Gin-Da,… Parhau i ddarllen Haclediad #77: Huawehei!
Awdur: Sioned Mills
Haclediad #76: Mae Popeth Yn Ossym!
Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn – mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan… Ond da chi yma am bodlediad lled-techy – so byddwn ni rîli’n siarad am tech gemau newydd Google Stadia, llanast “Anthem” Bioware; Stalkerware a Capten Marvel – a dim gwleidyddiaeth o… Parhau i ddarllen Haclediad #76: Mae Popeth Yn Ossym!
Haclediad 75: Sneaky Nest a Robo-Iest
Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets! Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!) Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd – Carl o… Parhau i ddarllen Haclediad 75: Sneaky Nest a Robo-Iest
Haclediad 74: Super-Techy-Gwylio Bocsets-Marie-Kondo-trocious
Mae criw’r Haclediad yn hitio 2019 yn galed ym mhennod gyntaf 2019 – bydd Bryd, Iestyn a Sioned yn trafod iTunes a telis newydd, bocs sets S4C, diffodd social media a spoiler special afterparty cyfan ar Mary Poppins. Hoffwch, rhannwch a gadwch sylw! Cefogwch yr Haclediad Dolenni Apple and Samsung bury long rivalry with iTunes… Parhau i ddarllen Haclediad 74: Super-Techy-Gwylio Bocsets-Marie-Kondo-trocious
Haclediad 73: Tri Gwirod Doeth
Mae’r tân yn craclo, yr hors d’oeuvres allan o’r tupperware a mae Iest yn gwisgo ei hoff ffroc goctail sbarcli – ydi, mae’n amser am barti Nadolig yr Haclediad! Yn y garthen glyweledol yma bydd Iest, Sions a Bryn yn yfed gormod, trafod eu hoff ddarnau o’r flwyddyn AC YN TRIO AROS YN BOSITIF! Dolenni… Parhau i ddarllen Haclediad 73: Tri Gwirod Doeth
Haclediad 72: Ffototal Wipeout
Ar bennod mis tywyll Tachwedd – bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley. Yn yr afterparty mae hi’n Llyfr Glas Nebo spoiler-tastic, da ni’n Stanio’r doctor newydd, ynghyd â llwyth o sgwrs ffilms, teli a Gin (wrth… Parhau i ddarllen Haclediad 72: Ffototal Wipeout
Haclediad 71: Toilet BlockChain
Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOS12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall… Parhau i ddarllen Haclediad 71: Toilet BlockChain
Haclediad 70: Llyfr Glas Kobo
Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd ‘Y Pod’, planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a… Parhau i ddarllen Haclediad 70: Llyfr Glas Kobo
Haclediad 69: Yn Fyw o’r Boudoir
Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL… Parhau i ddarllen Haclediad 69: Yn Fyw o’r Boudoir
Haclediad 68: Google Assiffestant
Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch! Dolenni Google Abandons… Parhau i ddarllen Haclediad 68: Google Assiffestant