Beth yw Pethau Bychain?
Beth?
Mae Pethau Bychain yn ddiwrnod i ddathlu’r iaith Gymraeg arlein ac i annog mwy o bobol i gymryd rhan yn y diwylliant Cymraeg digidol.
Pryd?
Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010
Pam ydyn ni’n wneud Pethau Bychain?
Rydyn ni’n or-ddibynnol ar gyfryngau wedi eu bwydo i ni yn y Gymraeg: mae’r we yn gyfle i ni furfio ein sianeli, ein gorsafoedd a’n diwylliant digidol ni ein hunain ar ein telerau ni.
Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”
Drwy wneud un o’r pethau bychain rydych yn chwarae rhan allweddol mewn llusgo’r Gymraeg mewn i’r byd digidol.
Pwy a wyr efallai taw eich pethau chi fydd yn lledu ar draws y we
Pam bod lleisiau Cymraeg ar-lein yn bwysig?
Mae’r we yn gyfrwng newydd. Mae’n bwysig iawn i weld yr iaith Gymraeg ar y teledu ac ar y radio. Mae’r un peth yn wir am y we.
Pa fath o bobol sy’n wneud pethau ar y diwrnod Pethau Bychain?
Rydyn ni eisiau gwahodd pawb sy’n gallu siarad Cymraeg neu sy’n dysgu Cymraeg, hen ac ifanc, dynion a benywod.
Does dim angen profiad o flaen llaw.
Dylen ni drio cael awduron / beirdd / pobol ffilm sydd *yn* brofiadol hefyd ddo. Does gan lawer iawn o bobol creadigol Cymraeg ddim presenodleb ar-lein. Gallan nhw jest gyhoeddi gwaith maen nhw wedi ei wneud eisoes ar y we.
Beth yw’r tag?
pethaubychain yw’r tag – am wasanaethau gyda tagiau. Bydd e’n hawsa i ffeindio unrhywbeth gyda’r tag.
Flickr: pethaubychain
YouTube: pethaubychain
Twitter: #pethaubychain
blogiau: pethaubychain
ayyb
Beth nesaf?
Mae gyda ni Addewid.
A phaid anghofio Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010!
Yr Addewid
“Dwi’n gwneud addewid i greu un peth bach arlein yn y Gymraeg ar Dydd Gwener 3ydd mis Medi 2010. Gall y peth bach fod yn greu:
- cofnod blog
- fideo
- darn o gerddoriaeth
- podlediad
- tudalen ar Wicipedia
- ffansin cerddoriaeth
- nonsens Photoshop
- comic gwe
- remix
- stwnsh fideo
- erthgyl academaidd
- blog newyddion lleol
- rhoi eich papur bro arlein
- adolygiad ffilm
- trosleisio/isdeitlo ffilm
- sgetsh gomedi
- drama Twitter
- e-farddoniaeth
- defnydd creadigol o fapiau Google
- creu tudalen we o gwmpas eich hobi / cymdeithas
- neu rhywbeth arall…
Yr unig beth rydyn ni’n gofyn ydi ei fod yn Gymraeg a’i fod am rywbeth sy’n cyffroi neu gorddi chi.”
“Bwriad y prosiect ydi cael mwy o bobol yn creu stwff difyr ar-lein a chynyddu’r gymuned Gymraeg ar y we. Drwy wneud un peth bach gallwch chi gyfrannu tuag at wneud y Gymraeg yn iaith fyw ar y we. Byddwch hefyd yn cael cynulleidfa fwy i’ch gwaith gan y bydd popeth yn cael ei dangos ar pethaubychain.com.”
Os ydyn ni am i’r Gymraeg dyfu a ffynnu yna rhai i ni greu diwylliant ar-lein Cymraeg annibynnol. Fel ddywedodd Ron Jones, pennaeth Tinopolis, yng nghylchgrawn Barn yn ddiweddar “os na fyddwn yn diogelu’r Gymraeg fel iaith ar-lein, ni all yr iaith hawlio’i lle yn y byd modern.”
Roedd erthygl dda gan Rhys Mwyn yn y Daily Post yr wythnos hon (11.8.10) o dan y teitl ‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrfiadur fydd o’. Mae’r erthygl yn sôn am sut mae’r teledu’n gyfrwng llai a llai pwysig a sut mae yna fideos unigol ar YouTube sydd wedi cael mwy o wylwyr na mae S4C yn dderbyn mewn blwyddyn. Byddai wedi bod yn erthygl dda i roi dolen ati o flog Pethau Bychain, ond yn eironig, dyw hi ddim ar gael ar-lein! (Mae’r Daily Post wedi stopio gosod cynnwys ei cholofnau Cymraeg ar-lein ers dros flwddyn am ryw reswm).
Diddorol.
Fydd y chwyldro ddim ar y teledu gyfaill, ar eich cyfrifiadur fydd o (gan Rhys Mwyn)
http://www.thefreelibrary.com/Fydd+y+chwyldro+ddim+ar+y+teledu+gyfaill,+ar+eich+cyfrifiadur+fydd+o.-a0234113052