Ar raglen Pethe heno roedd eitem yn trafod blogiau Cymraeg. Mae modd gwylio’r rhaglen ar wefan Clic S4C (eitem yn dechau ar 13:20).
Ac oes, mae cofnod ar adran ‘Eitemau’ y gyfres ble gallwch adael sylw (ond nid ar y blog!).
Ar raglen Pethe heno roedd eitem yn trafod blogiau Cymraeg. Mae modd gwylio’r rhaglen ar wefan Clic S4C (eitem yn dechau ar 13:20).
Ac oes, mae cofnod ar adran ‘Eitemau’ y gyfres ble gallwch adael sylw (ond nid ar y blog!).
Mae'r sylwadau wedi cau.
Helo, Gwion yma. Fi sy’n blogio i Pethe. Diolch am y sylw Rhys ac am yr ymateb difyr ar ein gwefan. Fi’n llwyddo i flogio unwaith yr wythnos ar hyn o bryd. Ond mae nhw yn bostiadau (sori!) gweddol hir – ond ddim yn rhy hir gobeithio! Mae’r blog nesa am fynd lan fory ac am drafod y busnes blogio yma. Un sylw bach – mae yn bosib gadael sylw ar y blog hefyd – nid dim ond adran yr Eitemau. Ambell un wedi gwneud. Diolch, Gwion Blog Pethe
Beth o’n i’n feddwl oedd sôn am flogio ar y blog, nid nasd oedd modd gadel sylwadau ar eich blog – ond ddaeth o ddim drosodd yn glir iawn!
‘Sdim byd yn bod a’r gofnodion hir chwaith, cyn belled a’u bod yn ddarllenadwy. Yn bersonol, mae’n lot gwell gyannau i flogiau arferol dros mirco-flogio (fel Twiiter) gan bod pobl yn tueddu rhoi mwy o feddwl i mewn i beth sy’n cael ei dweud.
Edrychaf ymlaen i ddarllen y cofnod blog, a dioclh am adael sylw yma – un awgrym, pam ddim ddefnyddio dy enw ar y blog yn hytrach na ‘Pethe’ neu ‘admin’? Mae’n rhoi mwy o gymeriad i’r peth ac yn edrych yn llai ffurfiol.