Eisiau prynu anrheg i chi eich hun neu i rhywun sydd a diddordeb mewn gadgets neu dechnoleg o rhyw fath ac yn benboeth am y Gymraeg, wel dyma i chi eich anrhegion delfrydol. Mae pawb eisiau tabledi neu gliniaduron ac mae Microsoft nawr yn cefnogi eu darparwyr i lansio rhai am brisiau deniadol iawn ac mae nhw i gyd i’w cael yn Gymraeg.
Os hoffech chi gael tabled, beth am yr HP Stream 7 – £99 ar wefan HP neu yn eich Currys/PC World lleol. Sut beth yw’r tabled? Wel, mae wedi cael adolygiadau da iawn o ystyried ei bris – mae’r iPad Mini1 yn mynd am £199 a’r iPad Mini3 am £319, felly mae modd prynu dau neu dri HP Stream 7 am bris un Mini iPad.
Ym myd gliniaduron, mae HP newydd lansio’r HP Stream 11 ac mae’r HP Stream 13 ar y ffordd, am £197 a £229. Mae’r rhain wedi cael adolygiadau da; mae nhw o ansawdd da, perfformiad cystadleuol, prisiau anhygoel o rhesymol ac, yn fwy pwysig i ni, ar gael yn Gymraeg.
Mae’r tabledi a’r gliniaduron yn cynnwys blwyddyn o danysgrifiad i Office365 ac 1TB o le ar OneDrive. Mae modd defnyddio Office365 yn Gymraeg.
Mae’n siŵr o fod yn werth cael golwg arnyn nhw…
Nadolig Llawen! 🙂
Ydy unrhyw un wedi trio un o’r tabledi Windows Cymraeg?
Byddai hi’n braf gwybod os maen nhw yn dda, pa apiau eraill sydd ar gael, ayyb.
Diddorol – ai’r fersiwn llawn o Windows 8.1 sydd arno, ta RT?
Mae o’n £70 efo tabled neu liniadur arall:
http://www.currys.co.uk/gbuk/computing/ipad-tablets-and-ereaders/tablets/hp-stream-7-tablet-32-gb-black-10075694-pdt.html
Ddim yn siwr os ydi hynny’n golygu y cewch chi ddau am £170 (un i bob plentyn/troed).
Mae nhw’n defnyddio Windows 8.1 gyda Bing. Mae’n debyg nad yw Microsoft yn codi ar wneuthurwyr am y drwydded hon. Y bwriad yw cystadlu gyda Chromebooks sydd wedi bod yn boblogaidd. Am y math yma o brisiau a bod y Gymraeg ar gael mae nhw’n edrych yn dda – gwell na’r Chromebooks.
Ces i olwg ar y tabled y diwrnod o’r blaen yn Currys, Caer ac roedd o wneuthuriad da, cynllun braidd yn di-fflach ac yn reit ysgafn. Roedd y feddalwedd yn symud yn sydyn a rhwydd. Gan ei fod yn Windows 8.1 safonol ac nid RT, mae’n gallu rhedeg meddalwedd arferol Windows (Cysgliad 😉 ), ond fyddwn i ddim yn disgwyl i gemau redeg yn dda arno.
Mae na fwy o wybodaeth am gampau/datblygiadau diweddar Microsoft ar wefan Paul Thurrott – http://winsupersite.com/