Sesiwn AM DDIM i ddysgu ac ehangu sgiliau golygu Wicipedia
Dewch i wybod sut i roi gwybodaeth am eich ardal a’ch diddordebau yng ngwyddoniadur mwyaf a mwyaf poblogaidd y byd. Os yw’n bodoli ar Wicipedia, mae’n debyg ei fod ar frig canlyniadau chwilio ar-lein, felly helpwch sicrhau bod pobl drwy Gymru a’r byd yn medru darganfod yr holl bethau grêt i’w gweld a gwneud yn eich ardal chi.
Cofiwch ddod â’ch gliniadur neu dabled!
15 Mai, 7pm, Tafarn Neuadd y Gild, Dinbych
20 Mai, 1pm, Gwesty’r Bull, Llangefni
21 Mai, 1pm, Canolfan Tŷ Llywelyn, Llandudno
Ebostiwch aled@wicicymru.org os ydych eisiau mynychu neu holi am fwy o wybodaeth.