Mae Llywodraeth Cymru wedi rhyddhau manylion am gyfres arall o grantiau ar gyfer prosiectau digidol Cymraeg:
Rydym yn gwahodd sefydliadau i wneud cais am grant o raglen 2014/2015.
Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion ein cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif ffocws y grant fydd cefnogi gweithgareddau sy’n:
- codi ymwybyddiaeth o, neu hybu’r defnydd o
- feddalwedd
- aps
- wasanaethau ar-lein
- declynnau creu cynnwys Cymraeg
- gynnwys digidol Cymraeg.
- cefnogi datblygiad meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg ar-lein
- cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd ar gael ar-lein.
[…]
Am ragor o fanylion ewch i wefan Llywodraeth Cymru a chysylltwch â nhw yn uniongyrchol.