Mae Andrew Misell yn awyddus i drefnu gwersi côd i blant. Darllena isod (dw i wedi copio ei e-bost gyda chaniatâd). Allai unrhyw un helpu? Gadawa sylwadau isod neu gysyllta yn uniongyrchol gyda Andrew.
Dwi wedi cael fy sbarduno i ymysgwyd o ‘nifaterwch am fod y mab wedi cael gwahoddiad i gwpl o gyfarfodydd Young Rewired State – un yn Nhrefynwy ym Mehefin, a’r Ŵyl Gôd sy’n cael ei chynnal ym Mryste a sawl man arall yn Awst. Does dim un o’r rhain yn ymarferol i ni, ac, wrth gwrs, mi fyddan nhw yn Saesneg.
Dwi’n fodlon rhoi cynnig ar weld beth gallwn ni ei wneud o ran trefnu sesiwn undydd yn ne Cymru – Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd, efallai. (Un broblem gyda’r Ŵyl Gôd oedd ei bod yn para am wythnos gyda rhan ym Bryste a rhan arall y Mirmingham, ac felly’n mynd yn eithriadol o ddrud o ran llety a theithio). Baswn i am wneud rhywbeth digon rhad i bawb.
[…]
Oes gyda chi blentyn sydd wrth ei fodd gyda chôd?
Oes gyda chi blentyn sydd wrth ei fodd (neu ei bodd) gyda’r cyfrifiadur – yn sgwennu rhaglenni, creu gêmau, neu ddatblygu gwefannau? Gall cyfrifiadura fod yn hobi pur unig weithiau – lot o amser yn plygu dros y cliniadur yn trïo datglymu rhyw ddarn bach o gôd. A does dim byd gwell i arloeswyr a dyfeiswyr na rhannu syniadau.
Hoffwn i wybod a oes rhieni eraill allan yn y byd mawr fasai gyda diddordeb mewn cynnal sesiwn undydd i blant a phobl ifanc oedran ysgol ddod ynghyd yn ne Cymru, i ddysgu gan ei gilydd a rhannu eu prosiectau yn Gymraeg.
I ddangos diddordeb (neu i gynnig help) cysylltwch ag andrew.misell@hotmail.co.uk, neu trydar at @andrewmisell
Cofion
Andrew
Mae gwersi côd yn rhan o’r cwricwlwm yn Estonia (neu E-stonia fel mae nhw’n dweud!). Gall fod yn rhan o’r cwricwlwm yma hefyd. http://www.bbc.co.uk/news/business-22317297
Beth ddaeth o hwn? https://twitter.com/techiaith/status/293319976138448896
Mae Young Rewired State nawr â chanolfan yng Nghaerdydd ar gyfer eu gŵyl godio: https://youngrewiredstate.org/festival-of-code