Rydyn ni wrthi’n drefnu Hacio’r Iaith 2013 yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ac mae’n fraint i ddweud bod modd cofrestru lle am ddim heddiw!
Manylion
Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013
9:30YB – 5:00YH (amser cau i’w gadarnhau)
Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru
Diolch i Illtud Daniel a phobl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am eich help a chynnig hael gan gynnwys ystafelloedd, bwyd a di-wifr.
Beth?
Dyma’r Hacio’r Iaith mawr lle fydd cyfle i drafod, dysgu, rhannu a datblygu bob math o ddefnydd o dechnoleg yn y Gymraeg. Mae gymaint o gynhadleddau, yn enwedig yn y diwydiant technoleg, lle mae angen talu cannoedd o bunnau er mwyn gwrando ar rhywun ar y llwyfan sydd yn trio gwerthu rhywbeth i ti. Mae pawb sy’n rhedeg Hacio’r Iaith yn wirfoddoli ac mae unrhyw un yn gallu rhedeg sesiwn. Gobeithio fod e’n wir i ddweud bod Hacio’r Iaith gan y bobl ar gyfer y bobl.
Mewn gwirionedd mae sawl digwyddiad dan yr enw Hacio’r Iaith gan gynnwys sesiynau trafod bach yn y dafarn ac elfennau o fewn amserlen digwyddiadau eraill. Ond ym mis Ionawr rydyn ni’n elwa mewn sawl ffordd o gael nifer o bobl amrywiol yn yr un lle:
- academyddion
- pobl busnes
- ymgyrchwyr
- llywodraeth
- llenorion
- blogwyr
- artistiaid
- ffotograffwyr
- dylunwyr
- newyddiadurwyr
- pobl theatr, teledu, ffilm, radio
- rhaglenwyr
- myfyrwyr
- rho dy hoff gategori yma ____
Cofrestru
Mae croeso cynnes i bawb sydd eisiau cyfranogi! Eleni rydyn ni’n defnyddio’r system digwyddiadau Eventbrite i reoli archebion. (Fel y dwedais, rydyn ni i gyd yn wirfoddoli ac mae’n haws nag opsiynau eraill!)
Hacio’r Iaith 2013 – cofrestru am le
Dyw’r rhygwyneb Eventbrite ddim ar gael yn Gymraeg eto yn anffodus.
Cynllunio
Fel y gwnaethon ni llynedd, mae tudalen wici ar Hedyn er mwyn i ni drefnu’r digwyddiad gyda’n gilydd ac awgrymu syniadau o flaen llaw.
Hacio’r Iaith 2013 – trefniadau a syniadau ar Hedyn
Mae un math o docyn, sef ‘cyfranogwr’ felly dylech chi feddwl am sesiynau bosib. Beth am gyflwyniad, trafodaeth neu sesiwn ymarferol sy’n gysylltiedig ag eich hoff bwnc, technoleg a’r Gymraeg?
(Os wyt ti eisiau argraff o drefn y dydd, dyma sut oedd yr amserlen yn Hacio’r Iaith 2012 yn edrych. Bydd mwy o le ar yr amserlen eleni gobeithio.)
Lluniau da gan Parch Ddr Rhys Llwyd, llun ryff gan Carl
Oes rhaid gofyn? Fyddai yna!
Mark, edrych ymlaen i dy weld!
edrych mlaen
Mae 28 o bobl wedi cofrestru erbyn hyn.
47% ███████░░░░░░░░
Oes ‘na Hacio’r Cyri nos Wener?
Mal – oes ac mae rhywun wedi dy gofrestru ar y wici eisioes!
Pob lwc i Hacio’r Iaith heddiw. Mynd i golli’r trafod difyr….
Hen dro Delyth. Diolch am adael i ni wybod. Am drio gwneud ambell beth rhithiol nes mlaen. Cadwa lygad ar y blog.