Dwi newydd fod yn trafod SEO (search engine optimisation) gyda chyfaill sy’n arbennigo yn y maes. Dywedodd:
1. Google doesn’t recognise Welsh as one of its “results” languages
2. It doesn’t seem to favour results in Welsh even when an explicitly Welsh search term is put in (eg Dewi Sant)
Ydy hyn yn wir tybed?
Dw i wedi sylwi pethau sy’n ffitio 1 a 2. Gwnaf i drio ffeindio enghreifftiau. Paid ag anghofio’r opsiwn Verbatim nawr achos mae Google yn trio cynnig sawl gwahaniaeth yn y canlyniadau sy’n seiliedig ar dy broffil, diddordeb ayyb.
Heddiw maen nhw yn dangos logo gwahanol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant ond dyw e ddim yn digon i fi. Mae gwendidau eraill i’r defnyddiwr Cymraeg:
3. Fydd unrhyw ganlyniadau ddim yn cynnwys treigladau o’r term chwilio, e.e. os wyt ti’n chwilio am rhywbeth gyda “Caernarfon” does dim gwarant o dudalennau gyda “Gaernarfon”, “Nghaernarfon” ayyb.
4. Dyw gorchmynion chwilio fel “site:” ddim ar gael yn Gymraeg.
4. Roedd Google yn trio ‘cywiro’ geiriau Cymraeg ambell waith. e.e. o’n i’n arfer chwilio am bethau fel ‘theatr’, roedd Google yn dweud ‘did you mean: theatre’ ac yn ddangos canlyniadau ‘theatre’ yn hytrach na ‘theatr’. Ond efallai maen nhw wedi newid y system bellach.
Mae peiriant chwilio Cymraeg yn hollol bosibl… rhywbeth gyda rhyngwyneb, canlyniadau, nodweddion, popeth i’r defnyddiwr Cymraeg. Pam lai. Dw i’n siarad am system llawn (nid dillad yn unig fel Gwgl.com). Sawl person sy’n chwilio am dermau Cymraeg bob dydd, tybed? Bydd y data chwilio a data am y we Gymraeg yn anhygoel o ddiddorol.
Dw i’n chwilio am dermau Cymraeg llawer o ddydd. Weithio, mae’r results dod o llyfrau, fel Charlotte Bronte, neu Charles Dickens (chapter 12, in which Jane makes a fool of herself.) Yn aml, bydda i’n chwilio am geiriau canau ymod i’n hoffi. (Dw i’n dysgu Cymraeg, ac sa i’n scweni yn dda. Sori!)
Diolch am y linc at Verbatim Carl. Dyle hwn helpu gyda dy sylw fod y ffurflen yn trio newid “theatr” i “theatre”
Mae 3. yn codi falle’r angen i beiriant chwilio allu lamateiddio(?) geiriau. Gwneud hyn ar y client side sy’n gallu bod yn anodd.
Mae’r broblem o ddelio gydag acenio mewn ffurflenni yn gallu bod yn anodd. Cwsom drafferth gyda hyn wrth gynllunio’r geiriadur newydd ar y BBC (gyda diolch i Uned Technoleg Iaith Prifysgol Bangor)
Nid yw “mor” = “môr”, ond go brin fod defnyddiwr Google am deipio “môr” gydag acen.
Dwi di adio screengrab o dudalen ieithoedd chwilio Google i’r post uchod. Ai mater o lobiio Google i geisio cael CY ar y rhestr yw’r cam cyntaf?
Os ydych chi’n dewis Cymraeg fel iaith rhyngwyneb ar Google mae e’n sicr yn ffafrio canlyniadau yn Gymraeg. Wrth gwrs mae hyn yn golygu nad yw llawer o nodweddion arall chwiliad Google arall ar gael (mapiau a newyddion er enghraifft).
Yn unrhyw iaith dyw e ddim yn bosib dewis Cymraeg fel iaith i’w chwilio ond mae nhw’n amlwg yn gallu eu wneud e fel gyda unrhyw iaith arall.