Os wyt ti eisiau datblygu rhaglenni neu apps ar gyfer ffônau symudol neu liniaduron sy’n rhedeg system Android, neu eisiau gweld system Android ar waith, mae modd i ti lwytho Pecyn Datblygu Meddalwedd (SDK) Android ar Ubuntu.
Wedi i ti osod yr SDK, bydd angen mynd ati i ychwanegu platfform: Android 2.3 (Gingerbread) yw’r un mwyaf cyfredol ar gyfer y rhan fwyaf o ddyfeisiau, a 3.2 (Honeycomb) ar gyfer tablet.
http://www.ubuntucymraeg.org/?p=1373
Mae modd gwneud hyn ar Mac hefyd. Ddim yn siwr am Windows, ond mae’n debyg y byddai’n bosib, fedrai ddim gweld Google yn gadael nhw allan.
Ma modd gwneud o ar bob platfform gyda Eclipse, sydd wedi ei sgwennu mewn Java.
Ar ôl arsefydlu amgylchedd Eclipse, mae’n bosib gosod SDK Android o fewn y meddalwedd.