Mae Disqus wedi cael ei cyfieithu (eto dw i’n meddwl) http://www.maes-e.com/viewtopic.php?t=29051&p=387841#p387841
Ni di trafod Disqus o’r blaen yma. https://haciaith.cymru/2010/10/05/disqus-yn-gymraeg-cc-nwdls-wilstephens/
Os dw i’n cofio yn iawn wnaethon nhw ddim defnyddio’r cyfieithiad cyntaf – am ryw reswm. Yn anffodus mae pobol wedi ail-adrodd yr un gwaith. Efallai tro nesaf bydd e’n werth chwilio archifau Maes-e, Hacio’r Iaith, Salt a Canolfan Bedwen cyn i ni ddechrau gwneud project tebyg. Sut ydyn ni’n gallu annog mwy o drafodaeth yn y gymuned technoleg Cymraeg? Neu creu mwy o gymuned?
Beth bynnag, bydd Disqus yn Gymraeg yn ardderchog – o’r diwedd!
Dyma gyfle priodol i ddweud diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i gyfieithiadau.
osgoi y math yma o ddyblygu gwaith oedd un brif amcanion Hedyn os dw i’n iawn pan sefydlwyd y wici. Bydd rhaid treulio bach o amser cyn bo hir yn rhestru a threfnu oppeth sydd wedi ei leoleiddio hyd yma ac hefyd pa brosiectau lleoleidido sydd ar eu canol.
Shw mae. Gwnes i chwilio’n drylwyr (dwi’n meddwl) am wybodaeth ar Disqus yn y Gymraeg. Cysylltais â Disqus eu hunain a chefais dim wybodaeth wrthyn nhw bod eraill wedi cychwyn ar y gwaith na bod rhai eitemau yn y ffeil iaith wedi’i chyfieithu’n barod. Hoffwn gynnig f’ymddiheuriadau os dwi wedi stampo dros draed rhai ohonoch chi. Beth bynnag allan, roedd tua 10-20% o’r termau eisoes â chynigion pan ddechreuais i.
Yn sicr fydd rhai camgymeriadau oherwydd diffyg cyd-destun rhai o’r termau, e.e. ‘don’t require moderation’.
Roedd llawer o dermau lle roedd angen treiglo’r cymal a oedd yn dilyn.
Anfonais restr i Disqus, ond mewn ofer. Dwi wedi derbyn newyddion ganddyn nhw – caiff ei gynnwys ‘cyn bo hir’. Croeso i unrhyw un ofyn i Disqus am yr hawl i wirio / golygu’r gwaith.
Rhys – oedd, mae Hedyn wedi ymestyn allan ond dylen ni diweddaru’r tudalennau lleoleiddio cyn hir yn sicr.
Alan – dylai fe bod yn iawn dw i’n meddwl, edrych ymlaen at ddefnyddio Disqus yn Gymraeg!
@Alan, Bysedd traed pawb saff :-), teimlo’n wael bod ti wedi mynd i’r drafferth i drosi rhywbeth oedd eisoes wedi ei drosi o’n i.
Dim prob Rhys 🙂
Oes tudalen yn bodoli gyda rhestr o gyfieithiadau ar y gweill? Dwi wedi bod ar Hedyn, ond methu â ffeindio ‘tudalen’ neu gategori. Yn sicr mae angen rhywbeth felly.
Roedd rhywbeth felly ar y cychwyn dw i’n credu (ar ei hanner), yna wedi i’r wci symud o feddalwedd DocuWiki i MediaWiki, mae’n debyg i bopeth fynd ar wasgar a dan ni heb fynd ati i ail-drefnu pethau. Mae rhywbeth fel hyn yn dangos pa mor bwysig a defnyddiol bydd tudalenau o’r fath.
http://hedyn.net/wici/Sgwrs:Meddalwedd
Alun, diolch am ofyn. Bydd e’n lot well nawr ar ôl ychydig o daflu syniadau!
Ni’n trio ychwanegu meddalwedd i’r Rhestr.
Cer yma i weld templed (anghyflawn ar hyn o bryd):
http://hedyn.net/wici/Sut_i_ychwanegu_meddalwedd_i%27r_Rhestr
Unrhyw ateb gan Disqus eto?
Eisiau ei defnyddio ar http://ybydysawd.com !