LibreOffice 7.2 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion…
Beth sydd i’w weld
Yn LibreOffice 7.2, mae ffenestr llamlen newydd o dan y ddewislen Cymorth yn caniatáu i chi ganfod nodweddion eraill yn y ddewislen trwy eu teipio. Angen nodwedd benodol ond ddim yn gwybod yn union ble mae hi? Tapiwch ychydig o nodau a bydd yn ei ddangos i chi!
Gwell ryngweithredu
Mae LibreOffice yn defnyddio’r fformat OpenDocument safonol – dewis gwych ar gyfer storio data yn y tymor hir. Ond gall hefyd agor dogfennau Microsoft Office, ac mae LibreOffice 7.2 yn cynnig llawer o welliannau i’r cydnawsedd yma, gan gynnwys trin ffeiliau DOCX, XLSX a PPTX yn well.
Nid dim ond wyneb tlws…
Rydym wedi cynnwys set newydd o dempledi ar gyfer eich cyflwyniadau, ynghyd â gwelliannau i siartiau yn Calc. Ond os oes angen i chi edrych o dan gwfl dogfen, mae arolygydd gwrthrychau UNO newydd hefyd – gan ei gwneud hi’n haws ysgrifennu macros ac estyniadau.
Cysgliad (Trwydded am ddim)
Mae Cysgliad – Trwydded am Ddim yn gweithio gyda phob fersiwn o LibreOffice.