Adroddiad gan Lywodraeth Cymru yn cynnig golwg ar gynnydd gyda phecynnau gwaith eu Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg hyd ddiwedd 2020.
Mae’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg yn deillio o strategaeth Llywodraeth Cymru Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr (2017).
Ei fwriad yw cynllunio datblygiadau technolegol fel bo’r Gymraeg yn gallu cael ei defnyddio mewn ystod eang o sefyllfaoedd, gan ddefnyddio llais, bysellfwrdd neu ddulliau eraill o ryngweithio rhwng bodau dynol a chyfrifiaduro.