Mae LibreOffice wedi ryddhau eu fersiwn diweddaraf o’r pecyn swyddfa. Dyma’r cyflwyniad i’r newidiadau:
LibreOffice 7.0 yw ein fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith.
Technoleg flaengar a chydnawsedd
Diweddarwyd OpenDocument, fformat ffeil brodorol LibreOffice i fersiwn 1.3. Mae llawer o welliannau hefyd wedi eu gwneud i fod yn fwy cydnaws â dogfennau OOXML, DOCX, XLSX a PPTX Microsoft Office.
Gwella eich llif gwaith
Mae LibreOffice 7.0 yn cynnwys amryw o welliannau defnyddioldeb. Mae modd diogelu Nodau Tudalen a meysydd rhag gwneud newidiadau damweiniol iddyn nhw, tra mae modd dangos nodau tudalen mewn-lin mewn testun. Mae gan y Llywiwr lawer o newidiadau er mwyn ei gwneud hi’n haws gweithio gydag ef, tra bod trin dyfynodau a chollnod mewn sawl iaith wedi eu gwella hefyd.
Disgleirdeb proffesiynol i’ch dogfennau
Ychwanegwyd orielau siapiau newydd: saethau, diagramau, eiconau a mwy.
Gall gwrthrychau gael effeithiau disglair ac ymyl meddal, tra’n destun lled-dryloyw. A diolch i’r peiriant graffeg Skia newydd, mae hyn i gyd yn cael ei ddangos gyda’r perfformiad gorau eto
Manylion pellach
Am restr lawn o nodweddion newydd LibreOffice 7.0, ewch i’r nodiadau ryddhau
Hefyd, mae Cysgliad – Trwydded am Ddim yn gweithio gyda phob fersiwn o LibreOffice.