Dyma wahoddiad i chi fynychu trafodaeth ymarferol ar y Gymraeg yn y byd(oedd) technoleg:
- newid polisïau’r corfforaethau mawrion
- rhyngwynebau Cymraeg
- meddalwedd Gymraeg
- platfformau
- apiau
- a mwy
Y nod yw i gytuno ar weithredoedd ymgyrchu penodol tuag at gael mwy o Gymraeg yn y technolegau rydych chi’n defnyddio bob dydd.
Mae croeso cynnes i bawb gymryd rhan. Nodwch argaeledd yma os gwelwch yn dda.
Cyfarfod o’r Is-grŵp Digidol ydy hyn – i drafod y materion penodol uchod, a materion cysylltiedig.
(Nodwch fod y prif grŵp yn canolbwyntio ar ddarlledu a chyllid ar gyfer cynnwys darlledwyr yn bennaf, ac mae pwyslais yr Is-grŵp fel yr uchod.)