Efallai eich bod wedi gweld botwm “Like” neu “Hoffi” Facebook ar wefannau y tu allan i Facebook. Efallai nad oeddech yn gwybod fod y botwm yn caniatáu i Facebook i dracio pa wefannau rydych yn eu pori er mwyn targedu hysbysebion tuag atoch chi.
Rydym yn galw ar Facebook i ddiffodd y defnydd o offer tracio ar draws gwefannau heb ofyn – fel y botwm ar wefannau allanol – sy’n targedu hysbysebion ar sail pori pobl.
Os yw pobl eisiau hysbysebion sydd wedi eu targedu atyn nhw, dylai bod modd iddyn nhw droi’r nodweddion hyn ymlaen. Mae arfer Facebook ar hyn o bryd o ddefnyddio tracio ar draws gwefannau heb ofyn, yn afresymol, gan nad yw llawer o ddefnyddwyr yn deall fod y math yma o gasglu data yn digwydd yn y lle cyntaf.
A wnewch chi ychwanegu eich enw i’r ddeiseb yn gofyn i Facebook ddiffodd tracio ar draws gwefannau heb ofyn?