Tro cyntaf i mi gyfrannu: gobeithio bod y pwnc yn berthnasol.
Cefais fy ysbrydoli gan y cofnod blog yma gan Robin DeRosa sy’n disgrio’r broses o greu testunlyfr ar gyfer cwrs llenyddiaeth yr oedd yn ei ddysgu. Efallai bod yma syniadau sy’n berthnasol i’r cyd-destun Cymraeg, felly meddwl baswn i’n ei rannu. Mae enghreifftiau arbennig o destunlyfrau Cymraeg wedi ymddangos yn ddiweddar, wrth gwrs, ond pan dwi’n meddwl am glasuron fel ‘Cyflwyniad i gerddoriaeth John Cage’ a ‘Golwg ffeministaidd ar gerddoriaeth electroneg’ dwi’n teimlo mod i tuag at derfyn y gynffon hir.
Trio osgoi ei myfyrwyr rhag prynu testunlyfr drud oedd bwriad DeRosa pan aeth ati i greu detholiad amgen o lenyddiaeth gynnar yr UDA. Drwy gasglu testynnau perthnasol, gwahodd (a thalu) myfyrwyr i sgwennu cyflwyniadau i’r gwahanol destunau, a thrafod efo’i gilydd, fe grëwyd The Open Anthology of Earlier American Literature. Ond, fel mae hi’n dweud ‘the $85 dollars that I saved for each of my students seemed to be the least of what was exciting to me about the open anthology […] Boy, did I underestimate the power of the open textbook’ (DeRosa).
Dydi’r llyfrau uchod am John Cage a cherddoriaeth electroneg ddim yn bodoli, gyda llaw, a dwi’m yn rhagweld nhw’n bodoli yn y dyfodol agos chwaith, ond efallai bod prosiect DeRosa yn cynnig syniadau ynglŷn â sut y gallant nhw fodoli. Ond, yn fwy pwysig, mae’r syniadau addysgol a ddaeth i’r golwg wrth greu’r llyfr, y broses o gyd-ddysgu a chyd-greu, yn hynod o gyffroes, dwi’n meddwl.
Falch o dderbyn unrhyw sylwadau.
(Debyg mai ‘gwerslyfr’ ydi’r term mwyaf cyffredin ar gyfer ‘textbook’ ond dydi’r syniad o wers ddim yn eistedd yn iawn i mi efo addysg agored. Felly, es i am ‘testunlyfr’ GPC.)
Diolch am godi hyn. Mae llawer iawn o botensial i addysg Gymraeg yma, ffurfiol ac anffurfiol.
Mae hi’n wych bob tro rydyn ni’n gweld sefydliad yn rhyddhau adnoddau o dan drwydded Comin Creu BY-SA neu’r parth cyhoeddus. Mae hi’n lot haws ailgylchu ac ailddefnyddio wedyn, ac yn amlwg yn llai o straen na chynhyrchu pethau gwreiddiol neu gyfieithu trwy’r amser.
Mae gan Wicipedia Cymraeg, Wiciddata, ayyb rôl i’w chwarae yma yn amlwg, fel llefydd i ffeindio cynnwys ond hefyd llefydd ar gyfer cydweithredu.
Y cynffon hir sydd efallai yn cyfleu her yn y Gymraeg oherwydd y nifer cymharol is o gyfranwyr mewn unrhyw niche penodol. Ond dw i hefyd yn gweld lot o frwdfrydedd.
Dw i’n credu yn gryf bod angen lot mwy o gydweithio a ‘chanoli’ er mwyn gwneud y gorau o’r adnoddau sydd ar gael ac osgoi gwastraffu amser ac ymdrechion.
Dyna oedd rhai o’r egwyddorion tu ôl i Hedyn ar gyfer cydweithio ar god a chynhyrchu apiau/gwefannau (yn hytrach nag addysg fel y cyfryw, ond mae’r egwyddorion yn debyg iawn).
Er enghraifft dyma dudalen WordPress.
Dyma enghraifft sydd yn fwy perthnasol i addysg: rhestr gychwynnol o lyfrau Cymraeg sydd ar gael ar-lein, a thrwyddedau.
Tybed os fyddi di a phobl eraill am gydweithio gyda fi ar Hedyn i ddechrau rhestru adnoddau, prosiectau, ayyb sy’n perthnasol i addysg, fel man cychwyn? Dw i newydd greu tudalen cychwynnol ar gyfer meddyliau/nodiadau ta waeth. 🙂
Diolch Carl,
Mae ‘na lawer o ffiniau hyblyg yn fyma, does: rhwng addysg ffurfiol ac anffurfiol; rhwng addysgwyr a myfyrwyr; rhwng rhywbeth fel cofnod mewn Wicipedia a phennod mewn llyfr, beth bynnag yn union ydi ‘llyfr’ unwaith mae o mewn ffurf ddigidol. Mae’r ffiniau yma yn hyblyg yn ddiddorol ond mae hefyd yn gwneud hi’n anodd cadw rheolaeth hefyd. Un rheswm, dwi’n meddwl, pam fod prosiect DeRosa wedi bod mor llwyddiannus ydi bod i wedi ei leoli tu fewn i gyd-destun penodol iawn: o ran cynnwys ac o ran grŵp o gyfranwyr… math o ‘ganoli’?
Ia, mae’r gynffon hir yn her, yn sicr, ond hefyd yn gyfle, dwi’n meddwl, a dwi’n cytuno am y brwdfrydedd. Ia, ‘cydweithio a “chanoli”’ mor bwysig, yn enwedig cael y cydbwysedd yn iawn. mae’r prosiect wedi’i fabwysiadu gan gorff mwy rŵan, sef Rebus Community. Bydd yn ddiddorol gweld os ydi symud i leoliad efo cymuned mwy, ac un mwy ffurfiol, yn golygu bod myfyrwyr ychydig yn fwy cyndyn i gymryd rhan.
Diolch am y dolenni. Llawer o bethau diddorol iawn yma! Mi wnâi drio ychwanegu cwpl o bethau. Roeddwn i wedi bod yn meddwl sbel yn ôl am greu porth termau cerddoriaeth, neu, termau dyniaethau, a gweld rŵan bod gen ti adran ‘Termau technolegol/arbennig’.