Mae fersiwn newydd o LibreOffice wedi ei ryddhau gyda nifer o welliannau defnyddiol. Mae’r manylion i’w gweld isod neu ar wefan Cymraeg LibreOffice: https://cy.libreoffice.org/
Nodweddion newydd i hybu eich gwaith.
Mae cydnawsedd fformat ffeiliau wedi ei wella o fewn LibreOffice 5.4, gyda gwell cefnogaeth i ddelweddau fector EMF. Hefyd, mae ffeiliau PDF sydd wedi eu mewnforio wedi eu rendro mewn ansawdd llawer uwch, ac mae palet lliw newydd wedi ei ychwanegu yn ogystal. Ar Linux mae modd defnyddio allweddi OpenPGP ar gyfer llofnodi eich dogfennau.
Golygu dogfennau’n hawdd
O fewn Writer mae modd mewnforio AwtoText, o dempledi dotm Microsoft Word. Wrth allforio a gludo rhestrau rhifo neu bwledi fel testun plaen, mae eu strwythur llawn yn cael ei gadw. Hefyd, mae yna nodwedd marc dŵr newydd, i’w gael drwy’r Ddewislen Fformatio, tra bod eitemau dewislen cyd-destun newydd wedi ei ychwanegu ar gyfer gweithio gydag adrannau, troednodiadau, diweddnodau ac arddulliau.
Gweithio’n glyfrach gyda thaenlenni
Mae Calc nawr yn cynnwys cefnogaeth ar gyfer siartiau troi, sy’n defnyddio data o dablau troi – a phan mae’r tabl yn cael ei ddiweddaru, mae’r siart yn cael ei ddiweddaru hefyd. Mae sylwadau hefyd, yn haws eu rheoli, gyda gorchmynion dewislenni ychwanegol ar gyfer dangos, cuddio a dileu sylwadau. Pan fyddwch yn gosod fformatio amodol ar gelloedd, gallwch nawr newid blaenoriaethau’r rheolau, gyda botymau i fyny ac i lawr. Yn ogystal, mae yna ddewisiadau diogelwch ychwanegol i ganiatáu mewnosod neu ddileu rhesi a cholofnau a phan fyddwch y allforio i fformat CSV, bydd eich gosodiadau’n cael eu cadw ar gyfer y weithred allforio nesaf.
Cyflwyniadau perffaith
Pan fyddwch y dyblygu gwrthrych o fewn Impress, mae modd pennu onglau ffracsiynol. Hefyd, mae eich gosodiadau’n cael eu cadw ar gyfer y weithred dyblygu nesaf. Yn olaf, mae llwybr byr bysellfwrdd wedi ei greu, Ctrl+M, er mwyn mewnosod sleid newydd.
LibreOffice Ar-lein – pecyn swyddfa pob man
Mae LibreOffice Ar-lein hefyd wedi ei wella. Mae perfformiad yn well, tra bod y cynllun yn addasu’n well i ddyfeisiadau symudol. Hefyd mae modd darllen yn unig wedi ei greu, ynghyd â newid cefnogaeth i dracio, rendro a sylwadau cynhenid a chefnogaeth gychwynnol i ddulliau mewnbynnu ieithoedd Asiaidd.
Manylion pellach
Mae manylion llawn y nodweddion newydd i’w gweld yma.