Mae’n falch iawn gen i ddweud, y bydd chweched anghynhadledd Hacio’r Iaith yn digwydd ym Mangor ar Ddydd Sadwrn y 7fed o Fawrth 2015.
I’r rhai ohonoch chi fuodd llynedd, mae hi yn yr un lle, yn y Ganolfan Fusnes yn y Brifysgol ac yn swyddfeydd y Ganolfan Technoleg Iaith. Mawr ddiolch iddyn nhw am drefnu lleoliad, bwyd a chroeso gwych i ni ddigidolion awchus.
I’r rhai sydd erioed wedi mynychu Hacio’r Iaith bydd croeso cynnes i bawb sy’n licio trafod a dysgu am Gymraeg mewn technoleg; gan gynnwys artistiaid, llenorion, blogwyr, datblygwyr meddalwedd, ymchwilwyr, myfyrwyr, ymgyrchwyr a mwy.
Mae’r wici ar gyfer Hacio’r Iaith 2015 yn fyw ar Hedyn, felly ewch draw, golygwch, ac ychwanegwch eich syniadau. Fel arall, mae’r sylwadau ar agor isod.
Mae Hacio’r Iaith am ddim ond rydyn ni’n gofyn i bawb sydd yn bwriadu dod i gofrestru er mwyn sicrhau bod digon o le / coffi / bwyd / socedi i bawb.
2 am bris 1!
Yn wahanol i llynedd mae’r Ganolfan Technoleg Iaith yn cynnal cynhadledd y diwrnod cyn Hacio’r Iaith ar y 6ed dan y teitl Trwy Ddulliau Technoleg. Mae’r gynhadledd rhyngwladol hwn yn lansio Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru a’n cynnwys siaradwyr gwadd o Dde Affrica, yr Alban, Iwerddon, Catalonia a Gwlad y Basg.
Datganiad | Amserlen | Archebu Tocyn (am ddim)
Felly mae ganddon ni nid un ond dau ddiwrnod o hwyl techaidd i chi.
A dwi’n siwr bydd cyri traddodiadol ar y nos Wener hefyd.
Welai chi gyd ym Mangor, aye!
Edrych ymlaen at gwrdd â chyfranwyr cyfarwydd a newydd!
Mae unrhyw un sydd eisiau cyfrannu syniad i dudalen Hacio’r Iaith yn gallu e-bostio i ofyn am gyfrif wici Hedyn (roedd rhaid i mi gau lawr cofrestru ar Hedyn oherwydd problemau sbam).
Hoffwn i ddysgu mwy am PhotoShop / GIMP.
Dw i’n chwarae gyda dylunio ers blynyddoedd ond hoffwn i wneud mwy o stwff sy’n edrych yn cwl, e.e. sut i greu poster neis ar gyfer grŵp gwirfoddol. (Paid â phoeni, fydda i byth yn cystadlu gyda dylunwyr proffesiynol!)
Oes ‘na rhywun sy’n fodlon rhedeg syrjeri neu weithdy bach?
Sut i recordio, golygu a dosbarthu podlediadau safonol fasa ar fy wishlist i. Dwi’n obsesd efo nhw ar hyn o bryd. A gweithdy Vine. Sawl Vine allwn ni gyd-gynhyrchu mewn awr?
Syniadau addawol.
Dw i erioed wedi clywed podlediad Cymraeg isradd a dweud y gwir. Dyma’r podlediadau dw i’n ymwybodol ohonynt – hanesyddol a chyfredol.
Gyda llaw, 183 clip Vine yw’r ateb i dy gwestiwn.
Diweddariad:
Dw i wedi derbyn ambell i deitl cyffrous oddi wrth gyfranwyr. Mae rhai o’r pobl yn cymryd rhan am y tro cyntaf!
Bydd manylion ar y tudalen wici cyn hir
Da iawn wir. Heb fod i HacIaith o flaen, gobeithio’n fawr dod
Huw
Dwi’n bwriadu cynnal sesiwn, “Gall Unrhyw Un Gyfieithu”. Hefyd, wedi chwarae gydag Audacity a Blender ddoe i recordio a rhoi sain newydd ar y fideo hwn.
Mae Blender yn hollol wych! Bydd sesiwn arall arno, o bosib.
https://www.youtube.com/watch?v=BjggFWx8lXQ
(Oes bosib mewnosod lluniau/fideos yn ein sylwadau?)