Erbyn hyn mae Geiriadur y BBC nôl yn fyw dan ei enw newydd Geiriadur Bangor. Mae wedi’i letya ar wefan Prifysgol Bangor ar http://geiriadur.bangor.ac.uk/. Cyfuniad yw e mewn gwirionedd o eiriadur cyffredinol Cysgair, sy’n rhoi geirfa gyffredin y Gymraeg a’r Saesneg, a Y Termiadur Addysg, sy’n rhoi termau wedi’u safoni ar gyfer addysg ysgol a cholegau addysg bellach.
Roeddwn i’n betrus iawn am eu cyfuno, fel a wnaed yn ein gwaith gwreiddiol i’r BBC. Roedd hyn am ein bod yn ceisio cael pobl i ddeall y gwahaniaeth rhwng geiriadur disgrifiadol fel Cysgair ar y naill law (lle mae rhyddid i bobl ddewis eu geirfa allan o holl gyfoeth yr iaith), a geiriadur rhagnodol fel Y Termiadur Addysg ar y llaw arall (lle mae angen safoni termau technegol er mwyn cyfathrebu clir).
Ond mae’r ymateb ers i’r BBC dynnu’r geiriadur wedi dangos fod yna le i eiriadur gyda rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio fel hwn, sy’n gyfuniad o eiriau cyffredin a’r eirfa dechnegol ddiweddaraf yn yr iaith. Byddwn ni yn yr Uned Technolegau Iaith yn ceisio’i gynnal a’i ddiweddaru o hyn allan felly o’n hadnoddau ein hunain. Diolch i Dewi a Gruff o’r Uned am eu holl waith yn ei adfer a’i roi ar lein.
Ar ran Delyth Prys.
Gwaith da. Mae’n braf cael:
1. cyfeiriadau uniongyrchol i eiriau
2. Hefyd mae’n gweithio ar fy llechen a ffôn.
Dyma ddau beth sydd ddim yn bosib gyda GPC er bod GPC yn cynnwys diffiniadau Cymraeg.
Ydi hwn efo cronfa ddata wahanol i’r app ar iOS?
Oes modd i’r geiriadur yma rhedeg berfau hefyd? Roedd geiriadur y BBC yn wych am hyn. Weithiau mae’n anodd pan rydym yn gaeth i ddafodiaeth i ysgrifennu gan ddefnyddio berfau cryno.