Mae Apple iOS8 ar gael nawr. Un o’r nodweddion newydd yw’r gallu i ddewis y Gymraeg fel hoff iaith. ‘Dyw hyn ddim yn golygu lleoleiddio llwyr, ond mae’n golygu bydd apiau gyda rhyngwyneb amlieithog – sydd yn cynnwys y Gymraeg – yn arddangos ar y ffôn neu lechen mewn Cymraeg. Beth sy’n wych yw mae’n ymddangos fod y Gymraeg yn cael ei gynnig yn awtomatig i ddefnyddwyr yn y wlad hon. Fel dengys sgrinluniau Iwan Evans, dim ond mater o lusgo’r Gymraeg uwchben y Saesneg yw hi. Yr her nawr yw i gynhyrchwyr apiau i ddarparu rhyngwynebau Cymraeg.
>Yr her nawr yw i gynhyrchwyr apiau i ddarparu rhyngwynebau Cymraeg.
Dwi’n meddwl am ap Twitter yn enwedig wrth awgrymu hyn.