Cwtsia Lan!

photo 1 copy     photo 2 copy

Eleni, dw i wedi sefydlu cwmni gyda Stuart Arthur, cyn-cyfarwyddwr technoleg Box UK, gyda’r enw Cwmni Digidol. Rydyn ni wedi bod yn datblygu ap yn diweddar. Cwtsh yw enw’r Ap – a Cwtch yn Saesneg, wrth gwrs. Y cynllun yw, lawnsio yn Gymraeg yn gyntaf, wedyn yn Saesneg, ond bydd pawb yn gallu newid rhwng y ddwy iaith. Ap ffotograffig ydy e, gyda’r lluniau yn cael eu tagio yn ddaearyddol  (‘geo-tagging’). Dyn ni wedi ei ariannu gyda buddsoddiad preifat.

Rydyn ni’n recriwtio nawr pobol sy moyn profi’r ap. Mae fersiwn beta ‘da ni. Mae pobol yn ei brofi yng Nghymru, yn Ffrainc, yn Nenmarc ac yn India’r Gorllewin hefyd. Mae’r ap yn gweithio. Rydyn ni’n trafod yr ap gyda pobol sy moyn ein helpu ni i’w hyrwyddo hefyd.

Mae’r holl beth wedi bod yn gyffrous, gweld yr ap yn cael ei greu. Rydyn ni wedi dechrau gyda syniad, wedi datblygu’r syniad ar bapur, wedi recriwtio datblygwr a dylunydd, wedi creu pensaerniaeth ar gyfer yr ap, wedi creu brand, ac wedyn wedi symud i ddatblygu yr ap ei hun. Gobeithio y byddwn ni’n gweld yr ap yn yr App Store cyn bo hir. Rydyn ni wedi cofrestru fel datblygwyr gyda Apple a rydyn ni’n gweithio ar fersiwn Android nesaf.

Dilynwch ni ar Trydar @cwtshys. Os chi moyn ymuno y peilot, anfonwch e-bost i cwmnidigidol@gmail.com

Mae’n bosib profi’r ap iOS ar hyn o bryd, ac ap Android cyn bo hir.

Mwy yn y dyfodol agos!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel newyddion Cofnodion wedi'u tagio

Gan Leighton Andrews

Aelod y Cynulliad dros y Rhondda;

4 sylw

  1. Dylai ddweud “dal eiliadau i’w cofio a chwtsia lan”. Mae angen treiglad llaes arnoch chi yn y frawddeg honno 😉

  2. Diolch. Dyn ni wedi bod yn dadlu cwtsia neu chwtsia. Dw I’n meddwl byddwn ni’n gadael y brawddeg yn ystod cyfnod profi.

    Mae llawer o wefan yn defnyddio ‘cwtsh’ – bydd marchnata yn bwysig.

Mae'r sylwadau wedi cau.