Mae cyfrif o’r enw visit_wales ar Reddit, dw i’n cymryd taw Croeso Cymru ydynyt.
Mae’n eithaf diddorol i weld defnydd o blatfform o’r fath gan sefydliad cyhoeddus. Mae rhai o’r lluniau wedi cael tipyn o drafodaeth. Does dim terfyn ar beth maen nhw yn fodlon gwneud i dynnu sylw (rhybudd: crinjlyd).
Pa effaith ar y Gymraeg? Byddai fe’n neis tasen nhw yn bostio pethau am y Gymraeg – a phethau yn Gymraeg o bob math. Mae eisiau hyrwyddo Cymru i siaradwyr Cymraeg a datblygu ‘twristiaeth ieithyddol’ i bobl o du allan.
Dylen nhw postio pethau ar BuzzFeed hefyd efallai – a Ffrwti…
Gyda llaw os ydych chi’n chwilfrydig am Reddit mae llwyth o bethau arno fe – da, drwg a hyll. Dechreuwch ar /cymru a /llawenyddhebddiwedd