Dw i’n dibynnu ar ddarllenydd RSS am fy newyddion diweddaraf. Yn anffodus mae Google yn troi Reader i ffwrdd am byth ar ddiwedd y mis hwn.
Os wyt ti wedi ei ddefnyddio peidiwch anghofio bod angen allforio eich ffrydiau cyn iddyn nhw tynnu’r plwg.
Fel arbrawf dw i wedi bod yn defnyddio CommaFeed.com fel darllenydd RSS amgen (diolch i dafyddt am yr argymhelliad).
Pam CommaFeed?
- mae’n syml iawn
- does dim rwtsh
- gallet ti ychwanegu ffrydiau a gwneud popeth rydych chi eisiau gwneud mewn darllenydd
- gallet ti mewnforio ffrydiau o Google Reader yn syth
- mae’n gweithio gyda phob ffrwd dw i wedi trio gan gynnwys RSS ac Atom
- yr un bysellau â Google Reader: j, k ac ati
- mae’r awdur wedi rhyddhau’r cod dan drwydded rydd
Hefyd
- mae rhyngwyneb Cymraeg i gael
Mae’n bwysig i gofio dyw’r feddalwedd ddim yn berffaith o bell ffordd. Dyw hi ddim cweit mor gyflym â Google Reader achos mae dyn yn ei rhedeg mewn fflat neu garej neu rywbeth. (I’r rhai yr oedd yn brofi’r wasanaeth gyda fi pythefnos yn ôl mae fe wedi cyflymu llawer ers hynny.)
Pwy a wyr beth fydd dyfodol CommaFeed.com. Ond mae unrhyw un yn gallu rhedeg y feddalwedd ar wefan neu weinydd sydd yn annibynnol o CommaFeed.com felly does dim gymaint o bryderon am y posibilrwydd o farwolaeth fel Google Reader. Mae’r cod ar gael ar Github. Dyma un rheswm pam mae meddalwedd rydd mor wych. Ac mae pobl eraill yn gallu cyfrannu i’r prosiect (os ydych chi’n chwilfrydig dyma sut mae cyfraniad i’r cyfieithiad yn edrych).
(Gweler hefyd: ffeindio ffrydiau ar gyfer blogiau Cymraeg er mwyn tanysgrifio iddyn nhw.)
Diolch am fy nghyfeirio at CommaFeed. Roeddwn yn ofnu y baswn yn gorfod tanysgrifio i dderbyn ebyst o bob blog fesul un!
RIP Google Reader. Mae’n amlwg nad oeddet yn gwneud digon o arian.
Ti’n iawn, mae wedi gwella lot yn yr wythnosau diwetha.
Diolch am dy waith ar y cyfieithiad. Unrhyw syniad os bydd yn bosibl cael stampiau amser yn y Gymraeg?
Gwnaeth rhwyun pwynt teilwng iawn ynglyn a Google. Os ydynt yn mynd i gau lawr gwasanaethau megis Reader heb meddwl am eu cwsmeriaid, bydd yn gwneud nhw yn llawer ofalus rhag buddsoddi ei hamser ac ymdrech mewn i’w gwasanaethau newydd
Diolch yn fawr am yr awgrym a’th waith cyfieithu. Newydd symud ato.
Nic, dylai stampiau amser (o ryw fath) gweithio erbyn hyn.
Diolch i bawb am yr adborth a’r anogaeth.