Mae gwasg Y Dref Wen yn cyhoeddi llawer o gyfieithiadau Cymraeg o lyfrau poblogaidd i blant gan gynnwys y gwych Gryffalo, a nôl yn y dydd nhw oedd yn gyfrifol am drosiad Cymraeg fy hoff gomic – Tintin.
Mae nhw rwan wedi rhoi 22 o lyfrau llafar neu lyfrau sain ar ffurf mp3 o rhai o’r llyfrau gorau yn rhad ac am ddim.
Mae’r lindysyn llwglyd yno (sydd rwan yn disgyn yn ddarnau yn tŷ ni), Beni, a Trychineb y Deinosoriaid (sydd yn stori hwyl am ddyddiau olaf y deinosoriaid – DARK!).
Rhowch nhw ar eich ipod – oriau o ddifyrrwch i’r plantos.
Gwych. Diolch am rannu Rhodri (a’r Dref Wen!)
Perffaith i ddysgwyr hefyd!