Henffych gyfeillion,
Mae fy ngwaith ymchwil gyda Golwg360 wedi byrlymu dros y wythnosau diwethaf, gyda threfniadau’r haf.
Mae’r prosiect rwyf yn addasu ar hyn o bryd yn ceisio harwyddo a chynyddu defnydd o newyddiaduraeth dinesydd a chynhyrchu deynnydd amateur ar -lein.
Mae’r prosiect yn seiliedig ar ddalgylch ‘steddfod yr Urdd, gan fod yn fwrlwm o ddiwylliant a’r iaith Gymraeg, a gobeithio bydd sawl cyfle a phwnc i ysgrifennu neu ffilmio amdan yno.
Rwyf yn bwriadu creu’r cyfle, darparu hyfforddiant a darparu platform i ddefnyddwyr greu erthyglau, dyddiaduron neu blog’s aml-gyfrwng drwy’r wythnos.
Gobeithio bydd gennai well dealltwriaeth ar ôl diwedd yr wythnos ar ymateb y cyhoedd ar gynulleidfa ar ffordd yma o weithio, a hefyd be fydd angen gwella ar gyfer cynyddu a gwella hyfforddiant a harwyddo cyn Eisteddfod Genedlaethol 2012, Bro Morgannwg.
Am fwy o wybodaeth cerwch i’r wefan
http://www.golwg360.com/mae-golwg-eich-hangen-chi
Siôn Rich
Siôn, swnio fel prosiect diddorol dros ben. Edrych ymlaen i’r canlyniadau.
Sut aeth hyn? Ddaeth unrhyw beth annisgwyl i’r amlwg, o ran llwyddiant neu rwystrau? Wedi bod yn dilyn ychydig ar http://www.golwg360.com/blog/cyfranwyr-gwadd
(ON byddai ‘tag’ neu ‘enw cyfranwr’ unigrwy i gofnodion blog y prosiect yn fuddiol os/pan ydym yn mynd i edrych yn ol ar y rhain ar ol cyfnod o amser, neu beryg iddynt fynd ar goll ymysg cyfraniadau mwy diweddar gan gyfranwyr gwadd yn gyffredinol. Falle bod Golwg360 ond ddim fel’n mae’r we’n gwiethio – mae’n rhan o archif mawr rwan)