Byddwn i’n dwlu ar gyfle i drafod y cwestiwn yma:
Which is stronger: technology’s power to shape local culture, or local culture’s power to influence the way technology is adopted and used? If it’s the former, as I suspect it is, then technology becomes a homogenizing force, tending in time to erase cultural differences. If it’s the latter, then technology plays a subservient role; the uniformity of the tool does not impose uniformity on the tool’s use. Culture prevails. […]
Un ar gyfer Hacio’r Iaith Eisteddfod 2012? Wrth gwrs mae diwylliant tu ôl technoleg. Yn aml iawn yng Nghymru, rydyn ni’n siarad am ddiwylliant penodol sef Anglo-Americanaidd, Saesneg o California.
Mae gweddill y cofnod yn trafod e-lyfrau ac mae Nicholas Carr wedi bod yn rhannu lot o feddyliau profoclyd. Dw i’n gallu argymell ei blog.
Ti’n iawn, mae’n gwestiwn hynod o ddiddorol! Os wyt ti’n edrych yn ol ar esiampl y chwyldro print, fe gafodd effeith hynod o debyg ar draws gorllewin Ewrop, e.e lledaenu’r dadeni dysg a’r diwygiad crefyddol. Roedd amgylchiadau unigol gwahanol wledydd yn golygu bod hyn yn digwydd ar gyflymdra gwahanol, e.e. yng Nghymru, oherwydd yr iaith, diffyg isadeiledd trafnidiaeth, tlodi, diffyg llythrennedd, cymunedau bach etc… fe ddigwyddodd y broses dipyn arafach. Ond digwydd wnaeth o yn y pen draw r’un fath.
O ystyried esiampl y blog sef e-lyfrau yn yr Unol Daleithiau a’r Almaen, fe fyddwn i’n meddwl y bydd yr un peth yn digwydd yn yr Almaen yn y pen draw a sy’n digwydd yn yr Unol Daleithiau, Fe all diwylliant ddylanwadu ar dechnoleg yn y tymor byr, a bydd rhai gwahaniaethau bach parhaol, ond dros gyfnod hir o amser digon tebyg fydd effaith y dechnoleg ym mhobman.
Mae’n bwysig i ddarllen Raymond Williams ar y pwynt ‘ma. Culture a technological determinism yw yr erthygl.
Gwnes i araith ar y pwnc yn y Cynulliad yh ystod 2004 http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-second-assembly/bus-chamber-second-assembly/bus-chamber-second-assembly-rop/n0000000000000000000000000024913.pdf?langoption=3&ttl=The%20Record
Diolch am adael sylw, Leighton.
O’r araith…
Y cynnwys sy’n gwneud i bobl fanteisio ar wasanaethau newydd, yn hytrach na’r pibellau, y gwifrau neu’r dysglau sy’n eu cyflenwi. Felly, beth y bydd defnyddwyr yng Nghymru yn ei wylio dros y rhwydweithiau digidol, beth y byddant yn gwrando arno a beth y byddant yn rhyngweithio ag ef? Sut y byddwn yn sicrhau
bod cynnwys Cymreig ar gael yn yr oes ddigidol i’w werthu’n fasnachol i ddefnyddwyr at ddibenion addysgol neu gymunedol?
Lot o stwff da, ac werth ei ddarllen. Er enghraifft mae awgrym bydd stwff o archifau BBC Cymru a S4C yn cael eu digideiddio, ac hefyd mae’r ffigyrau am gynnwys BBC Cymru a’r hen HTV y ddiddorol.
(Byddai’n wych petai cynnwys areithiau’r Cynulliad ar gael mewn ffurf mwy hygyrch – ond dyna drafodaeth arall!)