Mae gwales.com – gwefan lyfrau’r Cyngor Llyfrau – wedi cyhoeddi ei bod bellach yn gwerthu e-lyfrau yn ogystal â llyfrau print.
[…]
Wrth groesawu’r datblygiad hwn dywedodd Huw Lewis AC, y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth: “Rwy’n hynod falch bod Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid ychwanegol o £36,000 i Gyngor Llyfrau Cymru i hwyluso gwerthu e-lyfrau ar wefan gwales.com.
“Mae’n galonogol y bydd darllenwyr bellach yn gallu archebu e-lyfrau Cymraeg a Saesneg o wefan Gwales ac rwy’n falch y bydd y datblygiad hefyd o gymorth i siopau llyfrau, llyfrgelloedd a’r cyhoedd.”
[…]
o gwales.com yn gwerthu e-lyfrau, Golwg360
Mae’r datganiad yn codi pryderon a chwestiynau am ddyfodol yr economi deallusol yn Gymraeg. Wrth gwrs mae angen datblygu’r diwydiant e-lyfrau yng Nghymru ac yn Gymraeg ond beth yw’r ffordd gorau a’r defnydd gorau o arian cyhoeddus?
Beth mae menterau preifat fel siopau a gwasanaethau eraill yn meddwl am y defnydd o arian cyhoeddus i gystadlu gyda nhw? Dw i’n gwybod bod Gwales wedi cynnig rhyw fath o werth i’r diwydiant. Ond faint o arloesi fydden ni weld yn y diwydiant e-lyfrau yng Nghymru ac yn Gymraeg? Mae diwydiant e-lyfrau mor ifanc ac mae lot o arloesi potensial ar y gweill o ran defnydd o dechnoleg, gwerth ychwanegol, y ‘profiad’ o e-lyfrau, adolygiadau, bod yn mentrus ar yr ochr busnes… Os wyt ti’n ystyried yr enghraifft o lyfrau papur oes digon o arloesi wedi bod ers 1999?
Fydd digon o ddewis a siawns i unrhyw mentrau bychan?
Pwy sydd yn penderfynu’r polisi golygyddol? Elfen fawr sydd wedi cael ei weld yn Saesneg yw’r twf yn hunan-gyhoeddi a chyhoeddwyr annibynnol. Oes cyfle iddyn nhw?
Maen nhw wedi dweud bydd DRM ar bob e-lyfr trwy Gwales eisoes. Yn fy marn i dylai’r cyhoeddwyr gwneud y penderfyniad yna.
Maen nhw wedi dweud bydd DRM ar bob e-lyfr trwy Gwales eisoes. Yn fy marn i dylai’r cyhoeddwyr gwneud y penderfyniad yna.
Ti’n iawn, rhyfedd bod Gwales wedi penderfynu hynny eu hunain.