Mae gwerth £115, 000 o wobrau ar gael am syniadau da ynghylch ‘Sut gallwn ni drawsnewid cymdogaethau ym Mhrydain gyda’n gilydd?’ a hyd yn oed fwy o wobrau am syniadau i gefnogi ymwelwyr a chymunedau ar hyd y llwybr newydd, ‘Llwybr Arfordir Cymru’. Mae’r gwobrau hyn yn rhan o Sialensiau GeoVation yr Arolwg Ordnans.
Ar ddydd Gŵyl Dewi, mae Inventorium yn gwahodd arloeswyr i weithdy anffurfiol gyda’r nod o ffurfio timau â syniadau fydd yn gallu datrys Sialensiau GeoVation.
Bydd Sialensiau GeoVation yn cael eu datrys gan dimau sydd â gwybodaeth amrywiol am dechnoleg, busnes ac anghenion cymdeithas. Bydd yr Arolwg Ordnans yn ariannu’r syniadau sy’n gwneud defnydd gora o’r ddata, gan gynnwys OS OpenData ac OS OpenSpace.
Mae Sialens ‘Sut gallwn ni drawsnewid cymdogaethau ym Mhrydain gyda’n gilydd?’ yn rhedeg tan 28 Mawrth a bydd y syniadau gorau yn cael gwahoddiad i benwythnos Gwersyll GeoVation yn Southampton rhwng 18 a 20 Mai 2012. Bydd y rhai fydd yn cyrraedd y rownd derfynol yn y gwersyll hwnnw yn cael eu gwahodd i Sioe Arddangos GeoVation ar 20 Mehefin 2012 i roi cynnig am gyfran o’r arian.
Bydd manylion Sialens ‘Llwybr Arfordir Cymru’ yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.
Yng ngweithdy Inventorium bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn cwrdd â darpar bartneriaid, gweithio ar syniadau a’u troi’n gyflwyniadau ar gyfer y Sialens.
Pryd: 1af Mawrth, 09.30 – 15.30
Lleoliad: Tŷ Menai, Bangor. LL57 4HJ
Fe fydd gweithgarwch strwythuredig rhwng 09.30 ac 13.00 yna cefnogaeth ac ymgysylltu hyblyg ar gyfer y rhai sydd eisiau galw draw wedi hynny.
rhagor o wybodaeth:
http://www.inventorium.org/events/geovation-challenge-inventorium-idea-team-generation-day/
http://www.geovation.org.uk/geovationchallenge/