Seminar yng Nghaerdydd: Rhyngrwyd, rhyngweithiad a’r iaith Gwyddeleg

Ysgol Y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
Seminar ymchwil
Internet, interaction and the Irish language
John Caulfield
Dydd Mawrth 6ed Rhagfyr 2011
5:15PM, Ystafell 1.69
Prifysgol Caerdydd

5 sylw

  1. Mynychais hwn (doedd neb yn gwneud fideo).

    Cyflwynodd John ei waith ymchwil ar flogiau Gwyddeleg. Dangosodd ddarlun o’r rhwydwaith yr oeddent yn ffurfio (wedi ei greu gan ddefnyddio R http://www.r-project.org eglurodd e wedyn). Roedd nifer o’r blogiau heb gysylltiad o gwbl rhyngddynt a rhai eraill ac eglurodd John fod nifer o’r rhain yn flogiau o natur swyddogol/corfforaethol. Doedd hi ddim yn ymddangos i mi fod dwysedd y rhwydwaith yn uchel iawn a byddai wedi bod yn ddiddorol gweld sut y byddai blogiau Cymraeg yn cymharu. Soniodd John am waith Cunliffe a Honeycutte ac rwyf newydd fod yn edrych eto ar eu papur am Y Blogiadur (http://ella.slis.indiana.edu/~clhoneyc/homepage/papers/blogiadur-final.doc).

    Soniodd John fod nifer o’r blogiau Gwyddeleg yn cael eu hysgrifennu gan bobl y tu allan i Iwerddon. Yn y drafodaeth wedyn dywedais fy mod yn meddwl bod hynny’n wahanol iawn i sefyllfa’r Gymraeg ac nad oeddwn yn gallu meddwl am brin dim un o dramor. Wrth gwrs wedi cip ar http://www.blogiadur.com sylweddolais yn syth fy mod wedi darllen sawl un, e.e.
    o’r Asturias: http://asturiasyngymraeg.wordpress.com/2011/12/06/tren-cyflym-yn-arafu/
    o UDA: http://emmareese.blogspot.com/2011/12/cyngerdd-y-nadolig.html
    ac o Awstralai: http://anndraobell.wordpress.com/2011/12/05/penwythnos-ddiddorol/
    Er hynny, mae ystadegau papur Cunliffe a Honeycutte’n cefnogi fy nghred nad oes llawer ohonynt: cofnodwyd 8 o dramor allan o 75 lle roedd lleoliad wedi ei ganfod. Ymddengys i mi o hyd felly fod sefyllfa’r blogiau Cymraeg a Gwyddeleg yn wahanol yn hynny o beth.

    Mae’r we’n gwneud dadansoddiadau’n bosibl nad oedd yn bosibl eu gwneud cyn dyfodiad y we a dadansoddiadau rhwydweithiau cymdeithasol yw’r brif enghraiift. Mae ymchwil John yn darparu golwg newydd ar fath arbennig o rwydwaith. Efallai y bydd yn bosibl tynnu mwy o gymariaethau gyda sefyllfa blogiau Cymraeg. Byddai hynny’n gymorth i ni yng Nghymru a phobl Iwerddon farnu pa mor fywiog yw cymdeithas y blogwyr, o leiaf mewn cymhariaeth â’i gilydd. Asesu arwyddocâd byd y blogiau, i’w cymharu â Facebook, Twitter ac yn y blaen, yw’r brif broblem er hynny.

  2. Diolch yn fawr am yr adborth o’r digwyddiad Hywel. Basai’n diddorol iawn clywed mwy am sefyllfa’r Wyddeleg arlein, y enwedig blogiau. Falle dylid mynd ar ol John Caulfield* a gofyn os gellir rhoi copi o’i sgwrs/sleidiau arlein?

    O ran blogiau Cymraeg, mae rhai o gyfranwyr Hacio’r Iaith wedi bod yn brysur yn casglu blogiau Cymraeg, sy’n estyniad/diweddariad o waith Cunliffe a Honeycutte.
    Gweler yma: http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_Cymraeg
    Rydym wedi eu dosbarthu sawl ffordd, gan gynnwys lleoliad. Dyma’r rhai o du allan i Gymru: http://hedyn.net/wici/Categori:Blog_o_du_all_i_Gymru

    O gwglo, sylwaf fod John Caulfield yn aelod o Adran Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd:

    Mae PhD John ar yr iaith Wyddeleg (Cynllunio Ieithyddol/Sosioieithyddiaeth). Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn sut y gellir defnyddio’r rhyngrwyd i greu cymunedau o ieithoedd lleiafrifol.

Mae'r sylwadau wedi cau.